WELSH COLUMN
MAE’N fore Mercher ac mae’n rhaid ysgrifennu’r golofn hon cyn hanner dydd a’i hanfon at fy ngolygydd.
Fel arfer, fe fydd rhyw syniad wedi ei hau o ddarllen neu wrando ar wahanol ddigwyddiadau. Ond heddi, rwy’n deffro i glywed bod ein Prif Weinidog – a fu’n rhuthro o un wlad i’r llall yn Ewrop – yn mynd i wneud datganiad.
Mae’n bryd deffro go iawn, paned mewn llaw a gwylio.
A dyna glywed y bydd yna bleidlais o ddiffyg hyder yn Theresa May a’r 48 llythyr o ddiffyg cefnogaeth wedi eu cyflwyno. Nid dyna own i’n ei ddisgwyl y bore ’ma.
Bûm yn dychmygu ei sefyllfa – dychmygu Philip ei gŵr efallai yn dweud wrthi i ymddiswyddo. I feddwl am yr holl wyliau cerdded y gallent ei wneud dros y Nadolig neu wedi’r Ŵyl. Neu ei chlywed yn dweud y byddai yna refferendwm arall ar y cytundeb a gafwyd neu dim cytundeb o gwbl.
Nawr mi fydde hynny yn ben tost i lawer o bobl.
Lle byddwn ni ymhen wythnos neu ddwy tybed? “Ai hyn yw’r Nadolig mwya’ hwyr” fel y canai fy mab y garol boblogaidd.
I’r rhai sy’n credu i drefniadau’r Ŵyl ddechrau ym mis Hydref, mae’n dal i deimlo yn hwyr – hwyr bryd efallai i ni sylweddoli y nwyddau a ddaw ar yr adeg yma o’r flwyddyn – orenau o Sbaen, caws o wlad Groeg ac yn bwysicach siampaen o Ffrainc!
Mae gan Italo Calvino stori fer am ddyn yn gweiddi “Theresa” y tu allan i res o fflatiau. Ni chaiff ateb a daw rhai heibio a’i helpu i alw Theresa. Cyn hir, mae yna gorws yn gweiddi gyda’i gilydd gan gredu i’r galwr cyntaf adael ei allwedd yn y fflat. Bydd y cymeriadau yn amrywio, rhai’n mynnu gweiddi’n drefnus, rhai’n digalonni a gadael y fan a’r lle. Bydd un yn gofyn pwy yw Theresa dim ond i gael y galwr yn ateb nad yw’n gwybod ac y gallan nhw alw unrhyw enw arall pe mynnent. Stori ledrithiol o real yw gyda phawb yn gadael yn y diwedd ond am un dyn bach ac mae’r stori’n cloi gyda dau air “someone stubborn”.
Ymddengys y stori yn debyg i’r alwad ar i Theresa adael rhif 10 a thybed na fyddai enw arall hefyd yn destun yr un bloeddiadau gan gorws yr un mor amhersain.
Stori yw hon yr arferwn ei hadrodd i’m myfyrwyr ar sut i lunio stori ryfeddol a damhegol drwy alw enw rhywun yn ddirybudd ar gornel stryd a chael criw brith yn ymuno yn yr alwad. Ymdebyga i rai’n gwylio rhywun truenus ar ben adeilad tal sy’n bygwth neidio.
Ond nid stori ddychmygol mo strach Brexit. Un ffordd arall, call sydd i’r sefyllfa: does dim amdani ond cael pleidlais y bobl.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant