Sbarduno arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth yn SA1
MAE datblygu pentref dysgu ac arloesedd yn ardal SA1 Abertawe yn cefnogi nod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM), a sefydlwyd gan Y Drindod Dewi Sant, yn elfen ganolog o ddatblygiad Glannau Abertawe SA1 newydd y Brifysgol, sy’n sbarduno arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ymhlith cwmnïau sy’n gweithio ar gynhyrchion newydd a gweithgynhyrchu ar raddfa fach.
Cyfleuster ar gyfer ymchwil uwch, datblygu cynhyrchion newydd a gweithgynhyrchu arbrofol sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant yw CBM. Mae ei arlwy unigryw yn cael ei chyflwyno drwy dîm datblygu profiadol, sy’n defnyddio llwyfannau technoleg arloesol yn cynnwys argraffu 3D, sganio a gweithgynhyrchu ar raddfa fach.
Mae Gweithgynhyrchu ar gyfer Peirianneg Dylunio Arloesol (MADE) yn gyfres o brosiectau a gyllidir gan Ewrop, a gyflenwir gan CBM, ac sydd wedi’u cynllunio i gydweithio gyda BBaChau mewn diwydiant i ddiogelu eu gweithrediadau at y dyfodol, drwy uwchsgilio a mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu arbrofol.
Caiff y prosiect ei gynnig i sefydliadau cymwys fel portffolio integredig, i helpu gweithgynhyrchwyr Cymru i ddeall yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a sut y gallant ymateb i’r rhain, drwy ddefnyddio technolegau aflonyddol a hyfforddiant sy’n briodol i’w busnes.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Robert Brown: “Mae hwn yn gyfnod heriol i weithgynhyrchu yng Nghymru, gyda nifer o bethau ansicr o’n blaenau. Bydd proses barhaus Brexit yn esgor ar newidiadau economaidd, rydym ni’n gweld newidiadau cyflym sy’n berthnasol i weithgynhyrchu yn datblygu ym myd technoleg, a cheir esblygiadau sylfaenol o ran patrymau gwaith a staffio.
“Mae menter MADE yn cynnig cyfres glyfar o brosiectau cydweithredol, gan ddarparu offerynnau hanfodol i weithgynhyrchwyr sy’n benderfynol o’u harfogi eu hunain yn dda at y dyfodol. Rydym ni eisoes yn cysylltu â gweithgynhyrchwyr o bob math, i siarad gyda nhw am sut y gall prosiect MADE eu helpu. Byddem ni’n annog gweithgynhyrchwyr i gysylltu â thîm MADE i weld sut y gallem ni weithio gyda’n gilydd er budd eu gweithrediadau”.
Dywedodd Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes: “Mae gan Y Drindod Dewi Sant draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda diwydiant, cyflenwi rhaglenni a chydweithio i fodloni eu hanghenion. Bydd y rhaglenni a gynigir drwy brosiect MADE yn ein galluogi i weithio gyda’r sector gweithgynhyrchu i ymateb i heriau technolegol y pedwerydd chwyldro diwydiannol a chefnogi’r sector i wneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir drwy arloesedd o’r fath.
“Mae’r Brifysgol yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru, gyda chyllid wedi’i sicrhau drwy ERDF, i gynorthwyo cwmnïau i hybu eu cystadleurwydd a’u cynhyrchedd er mwyn sicrhau twf a swyddi, yn enwedig yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd lle mae angen mawr am fuddsoddiad o’r fath.”
“Mae Eddyfi Technologies, sydd â’i Bencadlys yn y DU yn Abertawe, yn dylunio ac yn cynhyrchu datrysiadau cropian robotig archwilio o bell ar gyfer y diwydiant olew a nwy. Dyma lle y cysyllton ni’n ddiweddar â’r Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â CBM i’n helpu i archwilio deunyddiau amgen fel polymerau, technegau cynhyrchu adiol newydd ac eraill fyddai’n gwella gweithgynhyrchu’r amgaead ac yn cyflwyno technegau newydd i’r cwmni y gallem ni eu cymhwyso i gynhyrchion eraill,” dywedodd yr Athro Neil Pearson, Prif Wyddonydd/ Rheolwr Cynnyrch, Eddyfi Technologies.
“Mae Diwydiant Cymru’n cefnogi’r rhaglenni UE hyn yn llawn. Ar adeg o newid a her sylweddol i’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, mae’r gweithrediad hwn yn amserol ac yn hanfodol. Gyda hanes o ddarparu datrysiadau ar gyfer diwydiant mae’r Drindod Dewi Sant mewn lle delfrydol i gyflenwi gweithrediad o’r fath,” ychwanegodd James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru.
Mae Ymchwil CBM yn arbenigo mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol cymwysedig. Mae prosiectau ymchwil yn nodweddiadol yn defnyddio technolegau gweithgynhyrchu uwch i sbarduno arloesedd ar draws amrywiol sectorau diwydiannol.
Mae CBM wedi esgor ar nifer o bartneriaethau strategol yn y DU, Ewrop ac Asia. Mae partneriaethau academaidd ar draws Ewrop yn cefnogi prosiectau ymchwil PhD cyfredol, ac mae cydweithio pellach yn cael ei ddatblygu yn Asia i hwyluso cyfleoedd masnachol.