Arloesedd yn helpu dioddefwyr Clefyd Parkinson
Cysylltodd cwmni o Lundain, Walk With Path, â CBM i helpu i ddatblygu dyfais i gynorthwyo symudedd pobl sy’n dioddef o Rewi Cerddediad (a elwir yn FOG) sy’n symptom cyffredin ymhlith pobl sy’n dioddef o glefyd Parkinson.
Mae FOG yn digwydd mewn hyd at 53% o gleifion â chlefyd Parkinson ac yn brif reswm am
gwympo gan achosi anallu i ddechrau neu barhau i gerdded. Pan fydd claf yn ceisio codi troed i gamu ymlaen, mae’r droed yn teimlo ei bod wedi’i ‘glynu’ i’r llawr, weithiau gyda chryndod yn y coesau.
Mae ymchwil wedi dangos bod ciwiau gweledol ar yr arwyneb cerdded yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth oresgyn FOG ac roedd gan dîm Walk With Path syniad i ddatblygu dyfais y gellid ei gwisgo ac a fyddai’n darparu’r ciw gweledol hanfodol hwn. Gofynnodd Walk With Path i CBM weithio gyda’u dylunydd diwydiannol i ddatblygu’r cynnyrch hwn a alwyd yn ‘Path Finder’. Dyfais ciwio laser yw Path Finder sy’n cael ei hatodi i esgid, gan daflunio llinell lorweddol ar y llawr o flaen y defnyddiwr, ar bellter penodol o’r traed. Mae’n rhoi ciw gweledol i’r defnyddiwr gamu ar ei draws, ac yn gweithredu fel sbardun allanol i ysgogi cerdded. Roedd prototeip syml eisoes wedi’i baratoi oedd yn profi’r egwyddor a gofynnwyd i CBM helpu i ddatblygu hwn yn gynnyrch masnachol.
Roedd profiad CBM o weithgynhyrchu a datblygu cynhyrchion i fod yn barod ar gyfer y farchnad yn hynod o werthfawr wrth ddiffinio Manyleb Dylunio’r Cynnyrch. Gan gydweithio’n agos gyda thîm Walk With Path a darpar ddefnyddwyr diffiniwyd gweithrediad y ddyfais a’i fireinio i sicrhau bod y dyluniad terfynol yn addas i’r diben.
Manylodd CBM bob cydran mewn 3DCAD cyn cynhyrchu 3 set o brototeipiau a ddefnyddiwyd ar gyfer profion helaeth gyda defnyddwyr.
Caniataodd adborth o brofion y defnyddwyr nhw i fireinio’r cynllun cyn cynhyrchu set gyfan o luniadau rheoli 2D i’w cynhyrchu.
Lai na 12 mis ar ôl ein cyfarfod cyntaf, mae Walk With Path wedi lansio Path Finder, cynnyrch arloesol, fforddiadwy i helpu dioddefwyr clefyd Parkinson i oresgyn anawsterau cerdded.
Dywedodd Sylfaenydd y Cwmni Lise Pape: “Helpodd CBM ni i brototeipio fersiynau niferus o’n cynnyrch gan gynnal profion gyda defnyddwyr ar bob cam drwy ddefnyddio eu gwasanaethau prototeipio cyflym i greu dyfeisiau y gallai ein defnyddwyr ryngweithio gyda nhw.
“Pan symudon ni i weithgynhyrchu ar raddfa fawr, nid dyna oedd diwedd y cymorth, ac roedd modd i ni ddibynnu ar CBM i gynnig cyngor a barn yn ystod cam DFM dylunio’r teclyn.”