Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

BYDD y Nadolig wedi digwydd erbyn ichi ddarllen hwn. A’r flwyddyn yn dirwyn i ben. Gyda fy mhen ar obennydd, cefais fy hun yn breuddwydi­o neithiwr imi gael fy ngwneud yn farwnes – mae’r gair yna’n treiglo’n od ac yn edrych fel pe bai’n debyg i farwolaeth.

Wel, rown i’n eistedd bob ochr i’r ddau farwn newydd sef Nicky Morgan a Zac Goldsmith ond yn dweud wrthynt nad own i’n deall pam y cefais y fath fraint gan nad own i wedi helpu’r Prif Weinidog mewn unrhyw ffordd.

Yn wahanol i Nicky Morgan a ddewiswyd fel barnwr nid barwnes ar fater sensitif a dod i ganlyniad na wnaeth Boris ddim o’i le wrth roi nawdd i benfelen o ferch busnes – neu ai busnes penfelen o ferch ddylwn ei ddweud. Am Zac own i’n teimlo’n flin amdano wrth weld ei wep yn y “cownt” wedi iddo golli ei sedd ond wedyn hei lwc, mae yna rinwedd mewn ysgol fel Eton a wele dyma “cownt” newydd yn cael ei eni.

Gair arall am Cownt yw Iarll a dyma gofio’r clasur Count of Monte Cristo gyda’i eiriau anfarwol “all human wisdom is contained in two words – wait and hope”.

Wrth gwrs fe ddihunais o’m trwmgwsg a’m breuddwyd ac atgoffa fy hunan mai sgil effaith cyhoeddi llyfr newydd sbon ar Gwsg oedd y tu ôl i’r freuddwyd ac imi aros ar fy nhraed yn rhyw hwyr neu gynnar i weld y canlyniada­u. A gyda llaw, er cael cais i drafod Cwsg ar Radio Cymru fore wedi’r etholiad roedd mynd at gyngor y gobennydd yn llawer mwy atyniadol.

Yn rhyfedd iawn, ers cyhoeddi’r gyfrol, caf ffrindiau a dieithriai­d fel ei gilydd yn adrodd eu breuddwydi­on mwyaf gwallgof wrthyf. Rhagwelais hyn wrth adael tudalen neu ddwy yng nghefn y llyfr er mwyn i ddarllenwy­r allu cofnodi eu breuddwydi­on parhaus i’w hanwyliaid. Oes mae gan bawb un freuddwyd sydd fel tiwn gron yn mynnu dychwelyd.

Gyda llaw, rwy’n hoffi’r ffaith i Max Richter lunio cerddoriae­th ar y thema cwsg, a’i berfformio i gannoedd o bobl yn eu gwelyau mewn man agored yn Califforni­a. Dynwared seiniau’r baban yn y groth oedd ei ysbrydolia­eth ond pan roies i’r CD ymlaen yn y tŷ daeth perthynas heibio a gofyn pam yn y byd own i’n gwrando ar gerddoriae­th angladdol.

Ond a ninnau’n camu at y flwyddyn newydd hoffwn fod yn galonnog. Mae graffiti ar wal yn Bogota sy’n dweud y geiriau “Let’s leave pessimism for better times”. Crafog.

A dyma obeithio felly y daw 2020 a myrdd o fendithion ichi – wedi’r cyfan mae addewidion mawr wedi eu gwneud am wariant dibendraw. Ac onid ydym yn cofio breuddwyd Joseff am saith mlynedd o lawnder wedi’r llymder.

Blwyddyn Newydd dda ichi oll.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom