Ydych chi dros 50 oed, yn gwneud swydd gwerth chweil ac am adrodd eich hanes?
MAE Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â WalesOnline i ddathlu gweithwyr hyˆn ledled Cymru fel rhan o’i hymgyrch ‘Nid oes gan unrhyw un ddyddiad Ar ei Orau Cyn’ ac mae’n chwilio am bobl dros 50 oed sy’n gweithio mewn swydd gwerth chweil.
Efallai eich bod wedi bod gyda’r un sefydliad ers blynyddoedd a’ch bod mewn sefyllfa o fod wrth galon y busnes
Gallech fod yn mentora ac yn ysbrydoli gweithwyr ifanc
Neu gallech fod mewn swydd lle
nnnmae eraill yn cael eu hysbrydoli a’u hannog gennych chi
Ydych chi wedi newid gyrfa yn hwyr yn eich bywyd ac wedi dilyn hyfforddiant i ddiweddaru eich sgiliau?
Hwyrach eich bod wedi sefydlu’ch busnes eich hunan, neu eich bod yn hunangyflogedig neu’n llawrydd
Ydych chi’n gwirfoddoli gyda sefydliad sy’n golygu llawer i chi?
Oeddech chi’n gwybod y bydd 1 o bob 3 person o oedran gweithio yng Nghymru erbyn 2022 yn 50 oed neu’n hyˆn? Er gwaethaf hyn, am ryw
nnnreswm, nid yw 28% o bobl 50-64 oed yn y DU yn gwneud gwaith cyflogedig.
Er mwyn datrys y sefyllfa hon mae Llywodraeth Cymru’n codi ymwybyddiaeth o sut mae pobl hyˆn yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi ac yn annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a hyfforddi eu gweithwyr sydd dros 50 oed trwy gyfrwng yr ymgyrch ‘Nid oes gan unrhyw un ddyddiad Ar ei Orau Cyn.’
Nod yr ymgyrch yw pwysleisio pwysigrwydd cyfraniad gweithwyr hyˆn i fusnesau a’r economi ehangach er mwyn sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau angenrheidiol i gystadlu yn y farchnad fyd-eang.
Yn ôl Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’r ymgyrch hon yn herio stereoteipiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran am weithwyr hyˆn ac yn taflu goleuni ar yr angen i fusnesau Cymru gymryd camau i ddiogelu at y dyfodol eu gweithlu a dathlu’r gwahaniaeth mae cael gweit. Mae hyn yn arbennig o wir i BBaCH, lle gall colli sgiliau a phrofiad gwerthfawr gweithwyr hyˆn gael llawer mwy o effaith.
“Mae angen i weithwyr asesu, monitro ac ystyried anghenion eu gweithwyr mwy profiadol, gan fod y rôl y maen nhw’n ei chwarae yn hanfodol i lwyddiant a ffyniant economi Cymru.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o 50 dros 50, hoffem glywed gennych.
I gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen ar WalesOnline: www. walesonline.co.uk/specialfeatures/ydych-chi-dros-50oed-17827730 cyn Ebrill 1af.
n