WELSH COLUMN
O DRO i dro, mi fydd yna ddadl yn codi am addysg... a ddylai plant fod yn dysgu cerddi ar eu cof? Yr wythnos ddiwetha’ yma, mi ges i’r ateb.
Cerdded yn y wlad yr o’n i, fel arfer, yn edrych ar arwyddion cynta’r gwanwyn yn dechrau codi trwy’r pridd a hynny’n hollol afreal o ystyried yr hyn oedd yn digwydd yn y byd o’n cwmpas ni.
Mae’n amhosib peidio â phryderu am y Covid-19 – neu Gofid 20 a rhoi enw gwell arno fo. Mae gan bawb ei bwysau... arian, iechyd, anwyliaid, gyrfa... a’r cyfan yn sydyn yn teimlo’n hynod o frau.
Ar adegau felly y bydd ambell i ddarn o farddoniaeth yn dod yn ôl i’r cof, yn gadarnhad o’n gwallgofrwydd ni, neu’n gysur ar amser caled. Mi allwch chi eu cario nhw o gwmpas fel sach fach ar eich cefn ac estyn iddi bob hyn a hyn i gael tamaid bach i’ch cynnal.
Bron yn ddi-feth, cerddi a ddysgais i yn yr ysgol ydyn nhw, pan oedden ni’n gorfod astudio cyfrolau cyfan – Dail Pren, Waldo Williams, a Cerddi’r Gaeaf, gan R Williams Parry.
A diolch byth fy mod wedi gorfod gwneud.
Mae ambell i ddarn gan TH Parry-Williams a Dic Jones yn gwneud yr un gwaith ac, yn Saesneg, RS Thomas, neu hyd yn oed Shakespeare a Wordsworth.
A dyna’r ateb i’r cwestiwn ar y dechrau. Mi ddylai plant ddysgu barddoniaeth, cyn belled â’i fod yn stwff da.
Y diwrnod o’r blaen, Rhyfeddodau’r Wawr, gan Williams Parry oedd y gerdd a ddaeth i gof ac yntau’n amlwg wedi ei gael ei hun allan yn y wlad fel yr oedd y wawr yn torri a gweld y byd o’r newydd. Roedd y gwrthdaro rhwng hynny a’r arferol mor amlwg â’r gwrthdaro rhwng fy nefoedd fach naturiol i a’r uffern oedd ym myd dynion.
Yn y soned, mae RWP yn synnu at weld y gog wedi dod i lawr o’r mynydd i’r ardd ac at weld y crëyr a’r sgwarnog fach yn gwbl ddi-ofn, gan wybod, ar yr awr ddi-lygredd honno, fod dyn yn ddigon pell. Fel i fi ar fy nhro, dyna oedd yn real – go iawn.
A’r rhan ola’ sy’n eich siglo chi... dychmygu fod y ddaear yn dod i stop a dyn yn diflannu efo’i holl ddinistr a’i ofidiau. Ac wedyn mae’r ddaear yn ailddechrau troi unwaith eto.
Yr wythnos ddiwetha’, roedd y ddaear yn iawn ar wahân i drafferthion dyn.
Diolch byth, mae gen i gerdd arall sy’n dod yn ôl i’r co’ o hyd ac o hyd. Waldo Williams y tro yma... “Nid oes yng ngwreiddyn bod un wywedigaeth...” ac yntau’n sgrifennu o fan tywyll iawn... yn dychmygu gwiwer gwynfyd yn swatio tros y gaeaf, ond yn paratoi am yr haf.