Llwyfan newydd a llwyddiannus i arwerthwyr
MART Dolgellau oedd y cyntaf erio edigynn al arwerthiant cŵ ndef aid arlein trwy gyfrwng fideo, a chyfle i’r byd weld y ci yn gweithio gartref mewn gwahanol amgylchiadau.
Dyma’r ail dro iddynt gynnal arwerthiant arlein a hwnnw wedi profi i fod yn llwyfan newydd, llwyddiannus. Rhaid cydnabod gweledigaeth a menter y cwmni a ddaeth yn sgîl cyfyngiadau Covid-19. Fe ddywedir “A llano bob adfyd yd awcyf le ”. Rhaid llongyfarch Farmers’ Mart am fanteisio ar y cyfle trwy gyfrwng technoleg a dulliau digidol a gosod y cyfan mewn modd hawdd ei ddeall.
Di wed dygânywy geiniog. Mae arwerthiannau o’r fath wedi llwyddo i gael prisiau uwch nag arfer. Allan o’r 90 a ddaeth dan y morthwyl, dim ond chwech fethodd werthu. Gellir gweld arwerthiannau o’r fath yn dod yn gyffredin.
Gast 18 mis oed, Elan Valley Sally, o eiddo David Evans, fferm Penclyn, Libanus, Brycheiniog a wnaeth bris ucha’r dydd. Gŵr adnabyddus ym myd treialon cŵn defaid sydd wedi cynrychioli ei wlad droeon. Gwerthwyd Sally am £18,525 gyda 5% o bremiwm yn golygu £19,451 i’r prynwr yn yr Alban.
Magwyd Sally gan Dean Addison,
Pen-y-Graig, Rhaeadr. Ei thad oedd Derwen Doug, ci o eiddo Kevin Evans, mab David Evans, sydd hefyd wedi dod i amlygrwydd byd-eang mewn treialon cŵn defaid.
Daeth Sally yn eiddo i David Evans drwy gyfnewid tâl am wasanaeth Derwen Doug (stud pup). Fe oedd pencampwr y treialon meithrin i gŵn ifainc ar Gyfandir Ewrop yn 2018 a’r pencampwr llynedd yn y treialon cenedlaethol, y treialon rhyngwladol ac ar y rhaglen deledu Dyn a Dau Gi (brace) gyda Knochmaa Bec. Gwerthwyd gast arall o eiddo David Evans am £11,025 – Lyn, dwy flwydd oed.
Roedd Kevin y mab hefyd yn yr arian trwy werthu Non, 30 mis oed am £10,300. Diwrnod rhagorol i’r teulu gyda bron £40,000 am dair gast ifanc.
Yr ail bris uchaf oedd Tynygraig Mal, ci dwyflwydd oed o eiddo Dewi Jenkins, Tanygraig, Talybont, Ceredigion.
Ffermwr ifanc sydd wedi dod i amlygrwydd arbennig mewn bridio cŵn ar gyfer gwaith fferm a threialon cŵn defaid, ac fe’i cydnabyddir am ei lwyddiant mewn treialon cŵn defaid a’i ddawn hyfforddi cŵn defaid i’r safon uchaf posibl.
Roedd Mal yn fab i Moss, ci o’i eiddo sydd yn fridiwr da. Gwerhthwyd Mal am £12,900 + 5% a bydd ei gartref newydd yn yr Iwerddon.