Western Mail

WELSH COLUMN

-

BETH yw’r broblem ynghylch gwisgo mwgwd?

A ninnau nawr yn cael mynd a dod ymhellach na’r rheol pum milltir, a symud mwy ymysg pobl, mae gwisgo mwgwd i mi yn fater o synnwyr cyffredin. Ac yn fater o raid. Hyd yn hyn, rwy’n synnu at gyn-lleied o bobl a welaf yn eu gwisgo. Ai’r gair “mwgwd” sy’n annymunol? A fydde “gorchudd wyneb” yn ddelwedd sy’n llai bygythiol? Ond cofier mai’r feirws ei hun yw’r bygythiad gwaethaf ontife.

Onid mater o arfer yw hi? Fel gwisgo gwregys wrth deithio yn ôl Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, yr Athro Venki Ramarkrish­nan. Roedd gwrthwyneb­iad bryd hynny hefyd i’r newid wrth deithio ond fydde neb yn meddwl ddwywaith am y peth heddi.

Rwy’n edrych ar y peth fy hun fel cael hances, macyn neu neisied pan oeddech yn mynd i’r ysgol slawer dydd. A hynny hyd yn oed os nad oedd annwyd arnoch. Gennyf atgof o fy mam yn rhedeg ar fy ôl y am imi anghofio un rywdro. Math arall o wisgo neisied yw’r gorchudd wyneb sydd wedi’r cyfan i’ch diogelu ac i ddiogelu eraill. Hoffwn gynnig slogan: Byddwch yn neis gyda neisied!

Am ryw reswm mae gennyf ffetis am hancesi poced. Llwyddais gasglu rhai ar fy nheithiau, gan eu bod mor ysgafn i’w cario adre. Mae ambell un wedi ei llunio o groen banana neu afal-pîn. Rhai o’r atgofion cynharaf sydd gennyf o anrhegion Nadolig oedd bocsys bychain gyda thair neisied wedi eu pinio i mewn iddynt. Rhai yr wfftiwn bryd hynny ond mae rhywbeth hyfryd am y syniad o ddarn o liain wedi ei brodio gyda blodyn neu lythyren cyntaf eich enw arnynt. Gall mwgwd fod yr un mor ddeniadol.

Tybed a ddaw’r gorchudd wyneb i gael yr un statws dyrchafedi­g â’r macyn lliain felly, cyn oes y bocs o hancesi papur? A fyddwn ni ymhen amser yn arddangos ein hamryfal gorchuddio­n wyneb o ran steil? Dechreuodd artistiaid greu rhai atyniadol a bûm mor lwcus â phrynu rhai gyda llun Frida Khalo arnynt a’u hanfon at ffrindiau agos.

Ond o ddifri gyda’r feirws ar led, mae’n hen bryd symud at ei ddeddfu fel y gwna’r Alban ymhen dyddiau. Beth am i Boris Johnson a Rishi Sunak ddangos esiampl wrth ymweld â’r gwahanol weithleoed­d?

Mae’r ymateb yn erbyn eu gwisgo yn ddwl. Rhoddodd Duw anadl inni fod yn rhydd, medd un yn America a honnodd yr un egwyddor ynghylch dillad isaf! Wel pob lwc weda i. “Man up” oedd agwedd ambell un fel Bolsonaro ond sydd yn awr, wedi dal y feirws ei hun.

Onid yw’n bryd i Gymru symud tuag at wneud gorchudd wyneb yn orfodol?

Fel yr arferwn ddweud wrth ein plant wedi iddynt adael eu gwaith cartref tan y funud olaf – “Ble chi wedi bod?”

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom