Y pandemig yn dangos sut y gall argyfwng amharu ar y gadwyn fwyd
“DOES unman yn debyg i gartref”, geiriau clasurol a glywais yn fynych ar gan ac ymadrodd.
Dangosodd arolwg fod argyfwng y cloi mawr wedi bod yn gyfle iddynt sylweddoli fod dyfodol eu ffordd o fyw yn mynd i newid yn yr hir dymor. Daeth llawer i werthfawrogi eu cartref, y teulu, cymdogion a’r gymuned gymaint yn fwy.
Yn anffodus, cododd pryderon mawr ac ansicrwydd am y dyfodol. Daeth yn amlwg bod yr argyfwng yn mynd i gael effaith ddinistriol ar fusnesau bach a mawr wrth i economi’r Deyrnas Unedig grebachu yn sgil y cyfyngiadau a ddaeth wrth i Covid19 daro.
Mae dros 300,000 gweithwyr Cymru yn rhan o gynllun “ffyrlo” ers dechrau’r pandemig. Wrth i’r cynllun ddod i ben yn yr hydref bydd llawer o bobol allan o waith. Mae rhai cwmnïau eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid torri ar nifer y gweithwyr.
Lleisiodd rhai farn nad oedd y cynllun “ffyrlo” yn ddigon hyblyg ac y dylai Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar y sector mwyaf bregus a’r rhai sydd wedi eu taro waethaf.
Mae economi Cymru yn llawer mwy dibynnol ar dwristiaeth, lletygarwch a manwerthu o’i chymharu â Lloegr – a dyma’r sector mwyaf sydd wedi cael ei tharo galetaf.
Mae busnesau cyllid a phroffesiynol wedi llwyddo i fod ar agor.
Rhoddir pwysau enfawr ar Brifweinidogion Cymru a San steffan i symud ymlaen gan lacio rhagor ar y cyfyngiadau er lles yr economi gan roi cyfle i’r cyhoedd ddechrau gwario.
Tybed faint o arian fydd gan bobl i wario, er ei bod yn amlwg fod arian yn llosgi ym mhocedi rhai. Cyngor gŵr o ardal Llanddewi Brefi oedd: “Os am safio arian, arhoswch adre!”
– gan gofio mai yng ngenau’r sach mae cynilo’r blawd.
Tybed beth fydd yr argoelion – yn enwedig gyda’r fath sôn am ddefnydd cynyddol y banciau bwyd er mwyn cael digon o fwyd i gynnal y teulu.
Wrth i drafodaethau masnach gael eu trefnu rhwng y Prifweinidog a’r Undeb Ewropeaidd, roedd ffafrio mewnforio cynhyrchion is eu safon yn gam gwag ac yn tanseilio ymdrech cynhyrchwyr bwyd y DU.
Mae’r pandemig coronafeirws wedi dangos yn glir i gwmniau a gwleidyddion sut y gall argyfwng byd-eang amharu ar y gadwyn gyflenwi bwyd.