Western Mail

WELSH COLUMN DYLAN IORWERTH

-

PETH rhyfedd ydi mynd ar wyliau tramor... i’r rhai ohonoch chi sy’n cofio gwneud hynny. Mae yna rywbeth rhyfedd yn digwydd pan fyddwn ni’n gadael ein mannau arferol a’n ffordd arferol o fyw.

Dyna pam ei bod hi’n gwbl amlwg y byddai ffigurau Covid-19 yn dechrau codi unwaith yr oedd pobol yn dechrau teithio i draethau heulog ac i bellteroed­d byd.

Nid Shirley Valentine ydi’r unig ddynes – na dyn – sydd wedi croesi’r dŵr a gwirioni... rai blynyddoed­d yn ôl, roedd yna erthygl bapur newydd am ddynion ifanc yn y Caribî yn cael bywydau braf iawn wrth ddenu ymwelwyr benywaidd canol oed o wledydd Prydain a’r Unol Daleithiau.

Rhywsut, o fod wedi gadael ein cae chwarae arferol, mae rheolau’r gêm yn newid yn llwyr. Mae ambell ddyn syber yn troi’n dibyn o refyr a phobol ifanc yn ymddwyn mewn ffordd na fydden nhw fyth yn gwneud yn ôl gartre’.

Felly, hyd yn oed yng Nghymru, wrth i bobol adael y dinasoedd a heidio i gefn gwlad, mi allwch chi eu gweld fel petaen nhw’n tynnu hen ddillad a gwisgo rhai cwbl newydd, yn anghofio am gadw pellter a rheolau eu bywydau cyffredin.

Yn Sardinia yn yr Eidal, pobol wirioneddo­l gefnog sydd wedi bod yn achosi problemau.

Mae’n debyg bod llawer o’r cleifion sydd wedi eu heintio yn ardal Rhufain wedi dal y clefyd ar y Costa Smeralda yn yr ynys, lle mae maes chwarae i’r cyfoethogi­on.

Efallai fod bod yn wirioneddo­l freintiedi­g ac ariannog yn gwneud i chi ymddwyn fel petaech chi ar eich gwyliau trwy’r amser.

Siom sy’n dod i ran y rhan fwya’ o Shirley Valentines ac anafiadau a thatŵs anffodus ydi canlyniad tipyn o’r camfihafio.

Yn ôl gartre’ y mae talu’r pris... ond, yn nyddiau’r pandemig, pobol eraill sy’n cael y bil.

Bellach, mae hi’n dod yn weddol amlwg mai un o’r prif sbardunau i’r clefyd yn y dyddiau cynnar oedd gwyliau hanner tymor diwedd y gaeaf, pan aeth miliynau dramor i sgïo; hynny pan oedd Covid yn dechrau gafael.

Go brin mai cyd-ddigwyddia­d oedd hi mai yng ngogledd yr Eidal yr oedd peth o’r achosion gwaetha’ yn y cyfnod hwnnw ac, ychydig dros y ffin yn Awstria, mae yna honiadau fod tref wyliau sgïo fechan yn ffynhonnel­l i’r feirws mewn bron 50 o wledydd.

O’r dechrau mae rhai wedi awgrymu bod delio â’r pandemig yn ddewis rhwng atal y feirws a chwalu busnesau ac economi.

Mae’r dystiolaet­h am wyliau tramor a theithio yn awgrymu bod hynny’n wir... ar yr wyneb o leia’.

Yn ddyfnach, mae’n amlwg fod y naill yn dibynnu ar y llall. Os daw’r pandemig yn ôl yn ei nerth, mi fydd busnesau’n diodde’ mwy eto a gwyliau’n cael eu gwahardd.

walesonlin­e/cymraeg

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom