Western Mail

WELSH COLUMN DYLAN IORWERTH

-

MAE’N rhyfedd fel y mae amser yn newid ffordd rhywun o feddwl... sut y gall rhywbeth anhygoel ddoe fod yn gwbl gyfarwydd heddiw.

Mae hi’r un mor rhyfedd sut yr yden ni, bobl, yn gallu addasu. Bellach, rhywun heb fasg sy’n rhyfedd, nid rhywun yn gwisgo un.

Ac, felly, blwyddyn “pwy fase’n meddwl?” oedd 2020 a phob un ohonon ni siŵr o fod wedi dweud, ar ryw adeg yn ystod y 12 mis, na fydden ni fyth wedi credu beth ddigwyddod­d o fis Mawrth ymlaen.

Sawl un ohonon ni fu’n siglo pen a dweud “wel, wel, adeg yma’r Nadolig diwetha’ pwy fase’n meddwl mai fel hyn y bydda hi” a ninnau’n cofnodi’r Nadolig heb ffrindiau na’r rhan fwya’ o’n perthnasau chwaith.

Mae Brexit yn perthyn i’r un categori hefyd er ein bod ni wedi cael blynyddoed­d i ddod yn gyfarwydd â hwnnw. Mae’r ymateb i’r cytundeb tenau, munud ola’n dangos bod egwyddor “pwy fase’n meddwl” ar waith.

Rhyw fath o ryddhad sydd wedi bod a ninnau wedi cael ein dychryn gan fygythiad o brinder bwyd a phob math o drychineba­u.

Diolch byth, meddai pawb, fydd hi ddim cynddrwg â hynna.

Ond ewch yn ôl i Nadolig 2015, efallai, cyn y refferendw­m, pan oedd y rhan fwya’ o’r doethion yn credu nad oedd peryg y byddai’r Deyrnas Unedig yn gadael ei “ffrindiau” yn Ewrop.

Bryd hynny, fyddai neb wedi meddwl ein bod ni am dreulio pedair blynedd a hanner yn trafod sut i wneud pethau’n waeth i fusnesau a ffermwyr a physgotwyr. Y bydden ni’n gwario biliynau ar biliynau o bunnoedd ar ei gwneud hi’n llai hwylus i deithio i’r cyfandir.

Oherwydd ein bod wedi dod yn gyfarwydd â’r darlun dua’, roedd cytundeb Nadolig 2020 yn siom ar yr ochr orau. O gymharu â methu â chael cytundeb o gwbl, mae o’n edrych yn gymharol dda... o gymharu â’r sefyllfa adeg Nadolig 2015, mae’n ymddangos yn eitha’ gwallgo.

Wyddon ni ddim am fanylion y cytundeb na sut y bydd pethau’n gweithio’n ymarferol ond, cyn hir, mi fyddwn wedi dod i arfer â’r cynnydd mewn biwrocrati­aeth, y trafferthi­on a’r ciwio wrth aros i ddangos pasport. Anhygoel bum mlynedd yn ôl.

Os ydi’r agwedd yma yn gwneud i ni dderbyn pob math o gam ac anghyfiawn­der ac os ydi gwleidyddi­on diegwyddor yn manteisio arno fo, mae hefyd yn ein cadw i fynd. Heb agwedd o’r fath, mi fydden ni’n boddi mewn anhapusrwy­dd.

Ac felly y mae hi efo’r pandemig hefyd. Pan ddaw’r brechlynna­u i bawb, mi fyddwn ni y rhan fwya’n fythol ddiolchgar, yn dweud pa mor lwcus yden ni i gael achubiaeth wyrthiol. Ac anghofio’n llwyr am ddweud “Pwy fase’n meddwl bod angen y fath beth?”

walesonlin­e/cymraeg

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom