Western Mail

WELSH COLUMN

MENNA ELFYN

- Walesonlin­e/cymraeg

MAE’R cyfnod clo hir yma wedi ein gwneud i feddwl yn fwy manwl am y pethau cyntaf a’r pethau diwethaf yn ein bywydau.

Alla i ddim â meddwl am Y Pethau Diwethaf heb feddwl am gyfrol hyfryd ac ysbrydoled­ig yr annwyl ddiweddar Gwyn Thomas. Roedd e wastad â’i fys ar fyls pethau gyda’i gerddi. Ond mae’r wythnosau diwethaf wedi ein gwneud i feddwl yn wahanol am fys a phyls. O, a wnes i olchi fy mysedd ar ôl cyffwrdd â’r parsel a ddaeth yn fy awydd i’w rwygo ar agor a gweld beth oedd yno?

Yn yr un modd mae’r pethau cyntaf a wnawn ar ôl cael ein hamddifadu ohonyn nhw yn mynd i aros yn y cof. Y cwtsh cyntaf, y dal llaw am y tro olaf yn achos cyfaill imi yn ffarwelio â’i thad. Pethau dwys, agos atoch y naill a’r llall. Pethau ichi golli eich gwynt am ennyd cyn diolch am yr anadl.

Fe ddywedais ryw dro mai “anadl einioes” oedd fy hoff eiriau – gyda’i gilydd wrth gwrs achos mae un heb y llall yn hollol ddiystyr.

Y pethau cyntaf te. Wel wir, roedd y fath orfoledd yn lleisiau’r rhai yn cael eu peint cyntaf – y bariau ar agor a’r clybiau tu allan. Dyna sy’n bwysig, “have some fun” yng ngeiriau Prif Weinidog San Steffan, un sydd wedi cael ei siâr o hwyl weden i.

Rhyfedd meddwl mai dyna’r flaenoriae­th yn Lloegr. Yn Ffrainc, mynnodd siopau llyfrau gadw eu drysau ar agor er y feirws. Ac yn ôl un cyfarwyddw­r celfyddydo­l ei bod hi’n ddiddorol y flaenoriae­th roddwyd i’r mannau disychedu cyn orielau, amgueddfey­dd a theatrau – hwyrach awgrymodd am nad oedd y criw sydd mewn grym, y Torïaid wedi gwybod rhyw lawer amdanynt!

Y pethau cyntaf a’r pethau diwethaf ontife. Peint cyn paentiad, tecila cyn theatr.

Ond gwn am sawl un sy’n ymfalchïo eu bod yn cael croesi’r Bont i weld anwyliaid am y tro cyntaf ers yn agos i flwyddyn. A’r sawl sydd am weld glan môr neu ddringo mynydd. Er dylem ddiolch am aelwyd a chael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau.

Wrth i mi ysgrifennu hwn mae’r peth diwethaf yr oeddem am ei weld yn dechrau digwydd.

Yng Ngogledd Iwerddon gydag 20 mlynedd o heddwch wedi para yno, mae’r peth diwethaf yr oeddem am ei weld yn digwydd. Terfysgoed­d ar y strydoedd gan rai nad oeddent efallai wedi eu geni pan ddaeth heddwch i fodolaeth. Ac yna, drwy un weithred fyrbwyll o eisiau i Brexit ddigwydd, dyma’r Prif Weinidog yn San Steffan yn cytuno – i wneud y peth diwethaf a addawodd wrth godi ffin yn y môr. Gallwn ni ond gobeithio y daw pwyll a heddwch. Dyna’r gobaith ddyle ddod gyntaf.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom