Ein dulliau cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu cig oen ac eidion
PROFODD ymchwil newydd fod gennym ni yng Nghymru rai o’r dulliau mwyaf cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu cig oen ac eidion. Dulliau sy’n rhoi cydbwysedd i’r ddadl am fwyd a’r amgylchedd gan gyflwyno tystiolaeth bwerus bod y dull ffermio yn y wlad yma yn llawer mwy cynaliadwy na’r cyfartaledd byd eang a’i bod yn cael ei chamddyfynnu yn aml ar y cyfryngau. Mae gwerthiant wedi profi hyn gan fod y cyhoedd wedi bwyta mwy o gig oen ac eidion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cydnabyddir fod prisiau’r farchnad wedi bod yn eithriadol o dda i ffermwyr yn ystod y cyfnod clo. Eto dydi’r elw ddim wedi gwella llawer wrth i gostau cynhyrchu godi’n eithriadol. Ofnir fod cwmniau sy’n gwerthu bwydydd anifeiliaid yn manteisio ar y prisiau uwch mae’r ffemrywr yn eu cael. Gall costau cynhyrchu fod yn anwadal iawn, yn dibynnu ar y galw ac hefyd ar y tywydd. Llynedd cafwyd Gwanwyn eithriadol o sych mewn rhannau o’r wlad, gyda nifer o ffermwyr yn gorfod bwydo eu hanifeiliaid yn niwedd y Gwanwyn gan olygu costau ychwanegol. Dan yr hen oruchwyliaeth, roedd yna arian tu cefn yn dod o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (SFP) ac roedd yn gyfrwng i gadw nifer o ffemwyr i fynd. Daw hyn i ben yn raddol yn y ddwy flynedd nesaf. Datganiad y diwydiant a Llywodraeth Cymru yw na ddylai Cymru dderbyn ceiniog yn llai o’r Gronfa Ffyniant Cyffredin. Mae’n gwbl angenrheidiol fod yr egwyddor hon o gefnogaeth yn parhau, yn enwedig i’r fferm deuluol yng nghefn gwlad Cymru. Dyma un o’r sylfeini euraidd wrth i’r Llywodraeth benderfynu ar ei bwriadau ar gyfer ariannu ei gweithgareddau yn y dyfodol. Efallai na sylweddolir fod gan amaethyddiaeth bwysigrwydd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru. Yn ogystal mae i’r diwydiant ran bwysig mewn gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol a lle pwysig yn yr ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd. Ymdrechir i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal a gwarchod yr holl fuddiannau eraill y mae cymdeithas yn eu derbyn o’r amgylchedd, sydd mor bwysig i bawb. Mae’r diwydiant amaeth yn fwy na pharod i gydweithio a’r Llywodraeth a phobol allweddol yn y diwydiant i ddatblygu hyn ymhellach