Peidiwch â thanseilio ymdrechion gyda cytundeb
BU llawer o anghydfod o fewn y Llywodraeth yn San Steffan wrth drafod cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia.
Gwelwyd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwrthwynebu’r cymhellion ar y sail y gallai greu cystadleuaeth annheg i ffermwyr.
Mae ffermwyr a’r Undebau Amaethyddol yn pryderu am y cytundeb sydd bellach wedi ei gadarnhau rhwng y Prif Weinidog Boris Johnson a Phrif Weinidog Awstralia, Scott Morrison.
Golyga hyn ganiatau mynediad cynhyrchion o Awstralia i farchnad y Deyrnas Unedig heb unrhyw fath o dreth na chostau.
Ofnir y gall hyn gael effaith andwyol ar ffermydd cefn gwlad Cymru, yn enwedig y fferm deuluol, gan na fydd eu cynnyrch yn cyrraedd gofynion y wlad yma.
Anodd iawn i ffermydd o’r maint sydd gennym ni yng Nghymru gystadlu a ffermydd mewn hinsawdd sy’n llawer gwahanol ac sydd gymaint yn fwy o faint.
Rhaid ystyried hefyd fod costau byw yn Awstralia llawer rhatach, cymaint a 20 mil y flwyddyn.
Mae Boris Johnson yn ymfalchio ei fod wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb gan fod hon yn garreg filltir go bwysig.
Dyma’r cytundeb cyntaf ar ol Brexit.
Gall ddod a chyfleon a busnesau newydd a fydd o fudd i nifer o gwmniau yng Nghymru sydd eisioes yn allforio i’r wlad.
Barn rhai yw y gall cytundeb masnach y Deyrnas Unedig gydag Awstralia roi Cymru dan anfantais trwy ganiatau mynediad di-dariff i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion amaethyddol. Gallai hyn achosi newidiadau yn y sectorau amaethyddol a chynnych bwyd yng Nghymru. Medr ffermwyr Awstralia gynhyrchu bwyd llawer yn rhatach.
Mae’n allweddol i’r sector amaeth fod yn ffyniannus a chynaliadwy er mwyn cymunedau gwledig Cymru.
Bellach, mae ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn rhan hanfodol o’n cymuned yn economaidd ac yn amgylcheddol.
Ymhyfrydwn yn ein safonau uchel o ran diogelwch bwyd a iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Gallwn olrhain tarddiad unrhyw gynnyrch fferm ac mae hyn yn destun cymeradwyaeth gan y cyhoedd yn fyd eang.
Gwyddom fod amaethyddiaeth yn cydnabod pwysigrwydd materion amgylcheddol a newid hinsawdd.
Bydd cludo bwyd o wledydd tramor dros y mor neu’r awyr yn tanseilio pob ymdrech.
■