WELSH COLUMN
UN O’R gêmau bach i’w chwarae yn y meddwl ydi gêm petai petase – dyfalu sut fyddai pethau heddiw petai digwyddiadau hanesyddol wedi mynd i gyfeiriad arall.
Mae yna un amlwg i’w chwarae rhwng heno a bore fory. Beth fyddai wedi digwydd petai Guido Fawkes a’i ffrindiau wedi llwyddo i ffrwydro’r Senedd a lladd y Brenin yn 1605?
A fyddai Pabyddion gwledydd Prydain wedi codi efo’i gilydd mewn gwrthryfel, neu a fyddai’r awdurdodau wedi troi arnyn nhw a’u lladd a’u herlid yn waeth hyd yn oed nag y buodd hi go iawn?
A dyma ichi un arall... beth pe bai gwn Gavrilo Princip wedi methu â thanio ar ochr y stryd honno yn Sarajevo ym mis Mehefin 1914?
Mi fyddai Ymerawdr Awstria-Hwngari a’i wraig wedi byw – mi wyddon ni hynny – ond beth fyddai wedi digwydd i’r byd? A fyddai yna Ryfel Byd wedi bod beth bynnag, neu a fyddai’r Ddaear wedi osgoi un o’i thrychinebau mwya’?
Ac, wrth gwrs, pe baen ni wedi osgoi’r Rhyfel Mawr, mae’n bosib iawn na fyddai Hitler wedi dod i rym yn yr Almaen ymhen tua 15 mlynedd wedyn, a’r Holocost a’r Ail Ryfel Byd heb ddigwydd.
Felly, dyma gyrraedd heddiw a’n fersiwn fach ninnau o gêm petai petasai... yn cael ei chwarae wrth i’r holl arweinwyr rhyngwladol gyfarfod yn Glasgow i siarad a thrafod yng nghynhadledd allweddol COP26. Mi allai honno hefyd ddylanwadu’n anferthol ar ddyfodol y byd mewn un ffordd neu’r llall.
Mae’n fwy nag un digwyddiad sy’n cael ei gynnal tros ychydig llai na phythefnos; mi fydd llawer o’r gwaith caled wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwetha’. Ychydig o sioe ydi cynadleddau o’r fath ond yn bwysig iawn er hynny.
Pwysicach fyth fydd yr hyn sy’n digwydd go iawn ar ôl yr holl ddadlau a bargeinio. Y farn gyffredinol ydi fod Cynhadledd Paris yn 2015 wedi bod yn llwyddiant mawr ond, petai hynny’n hollol wir, fyddai dim angen y trafodaethau yn Glasgow.
Tydi holl addewidion y cytundeb hwnnw ddim wedi’u cadw eto – er enghraifft addewid y gwledydd cyfoethog i roi £100bn i helpu gwledydd tlotach wynebu’r argyfwng hinsawdd.
Gosod cyfeiriad fydd COP26 felly, yn debyg i arwydd ar groesffordd yn dangos be ydi’r dewis posib. Cyn y penwythnos nesa’, mi fydd rhaid i’r gwleidyddion benderfynu pa ffordd i fynd.
O wneud hynny, gwaith caled y blynyddoedd wedyn fydd sicrhau pa mor gyflym fydd y daith a ble’n union y byddwn ni’n cyrraedd. Ond COP26 fydd y man lle gwnaethpwyd y penderfyniad.
Felly, ymhen rhyw 400 mlynedd, a fydd pobl yn edrych yn ôl a dweud: “Diolch byth mai fel yna y gwnaethon nhw yn 2021”?
Y posibilrwydd arall ydi fod neb o gwbl ar ôl i fynegi unrhyw farn.