Western Mail

WELSH COLUMN

MENNA ELFYN

- Walesonlin­e/cymraeg

MAE yna ymgyrch ar droed i beidio â phrynu dillad newydd am flwyddyn. Na, wna i ddim addo eto i beidio â phrynu pilyn am flwyddyn gron ond rwy’n llawn edmygedd o’r rheiny sydd wedi cychwyn yr ymgyrch a hynny er mwyn yr amgylchedd.

Ond fe fues i o dipyn i beth yn ceisio cael gwared ar ddillad yn ystod y misoedd diwethaf. Llwyddais i ffarwelio gyda sawl bwndel o ddillad a brynwyd a rhai, gen i gywilydd i gydnabod, heb eu gwisgo hyd yn oed gyda’r tafodau pris arnynt o hyd.

Rhyw brynu ffwrdd-â-hi neu chwiw yr eiliad wan oedd y rheswm fel arfer dros brynu dilledyn heb wybod a oedd ei angen arnaf.

Ac roedd gweld y gair “sêl” wedi ei fywoleuo yn ddigon i’m gyrru i chwilio am fy mhwrs. Gas gen i gydnabod imi wario yn ddiangen. O leiaf fe’u gwelaf o dro i dro yn hongian mewn siop elusen leol.

Mor wahanol oedd hi slawer dydd pan oeddwn yn groten fach.

Rwy’n ddigon hen erbyn hyn i gofio’r “liberty bodice”, rhyw fath o staes neu fest i blentyn gyda botymau i gadw’r cnawd yn gynnes ac yn ei le.

Roedd cael “fest” yn beth pwysig yn ein geirfa ni’n blant, pe bawn yn cael annwyd byddai un o’r ddwy fam-gu yn siwr o ddweud “dylet fod wedi gwisgo fest”. Wel, mae eisie mwy na fest heddi i arbed mynd yn sâl ond y mae dillad cynnes yn gaffaeliad.

Gyda’r holl weithio yn y cartref, dyna braf bellach yw gallu gwisgo pyjamas drwy’r dydd pe baem am wneud hynny. Diflannodd y rhagfarn am y math o wisgoedd bob dydd sydd yn dderbyniol. Wel prin fod neb yn sylwi ar ddillad neb arall y dyddiau yma.

Cofio’r cyfnod pan oedd gwisgo trowsus fel athrawes ifanc mewn ysgol yn destun trafodaeth ynghylch ei “weddustra” er mai cyfnod sgertiau mini oedd y dewis arall bryd hynny.

A do, daeth yr hwdi anfarwol – gyda chwcwll yn ffasiwn gan yr iau a’r hŷn er i hynny gael ei feirniadu gan wleidydd ryw dro fel gwisg hwliganiai­d peryglus. Wel bellach rwy’n dwlu ar fy hwdi ac yn ei gael yn hynod gysurlon boed o gwmpas y tŷ neu ar hyd a lled y dre.

Dillad... Roeddwn wrth fy modd yn mynd gyda mam i brynu deunydd yn y farchnad ac yna awn â’r deunydd at wraig a wnai wyrthiau ohono. Gallaf deimlo’r piniau yn fy asen o hyd wrth alw am “ffiting” cyn torsythu yn y wisg derfynol.

A dyna fi nôl at gyfnod “dwy ffrog newydd at yr haf ”. A! Ha! Darbodus, fel y dyle pethe fod. Digon i’r haf oedd dwy ffrog newydd a dim pilyn yn fwy am flwyddyn arall.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom