Cytundeb masnach yn achos pryder i’r diwydiant amaeth
MAE’R cytundeb masnach rydd a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Seland Newydd ac Awstralia yn gynharach yn achos pryder sylweddol i gynrychiolwyr amaeth a ffermwyr.
Er y gall y cytundeb sicrhau cyfleoedd swyddi a fedrai fod yn fanteisiol i fusnesau’r Deyrnas Unedig, nid felly i ffermwyr Cymru.
Mae’n amlwg fod Seland Newydd ar ei hennill dan y cytundeb. Medrant allforio 30% yn fwy o gig i’r DU. Wrth i’r tariff gael ei godi yn raddol rhwng y ddwy wlad, medrant allforio rhagor o gig oen i Brydain.
Anodd i amodau tywydd Cymru gystadlu â hinsawdd Awstralia a’i ffermydd enfawr a chostau cynhyrchu llawer rhatach.
Gall hyn arwain at ddirywiad mewn safonau bwyd gan nad yw Seland Newydd ac Awstralia yn mynnu yr un safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid ag sy’n angenrheidiol yn y wlad yma.
Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn hyderus fod Seland Newydd ac Awstralia am gryfhau eu perthynas gyda’r cytundeb masnach. Gan ystyried fod gwledydd mawr fel Tsieina a Siapan yn nes, nid ydynt yn debygol o fod yn rhy awchus i allforio cig i Brydain. Mae’r pellter rhwng Melbourne a Llundain yn agos i 1,300 milltir.
Os digwydd i anghydfod godi, medrant gwympo nôl trwy allforio eu cig i Brydain. Gall hyn gael effaith andwyol gan fod Cymru yn wlad o ffermydd teuluol bach mewn un ystyr. Gwlad sy’n dibynnol ar y diwydiant cig oen, cig biff a chynhyrchion llaeth fel menyn, caws a llaeth powdwr.
Wrth fewnforio rhagor o gig gwelwn ddirywiad ein diwydiannau gwledig, ein dinasoedd a’n trefi os na fydd digon o gyflenwad bwyd. Trwy gynnig yr un manteision masnach, gall hyn agor y drysau i fwy o wledydd alfiorio eu cig i’r wlad yma. Bwyd a fydd yn rhatach. Bydd temtasiwn i deuluoedd brynu cynnyrch rhatach er efallai y bydd wedi ei drin â hormonau. Bydd hyn yn mynd yn erbyn yr egwyddor o brynu nwyddau iach sydd wedi eu cynhyrchu yn lleol.
Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi datgan y gall cadarnleoedd yr iaith Gymraeg fod dan fygythiad wrth i delerau’r cytundeb masnach â Seland Newydd ac Awstralia gael effaith ar economi ein cymunedau.
Os am weld cymunedau cefn gwlad Cymru yn ffynnu, rhaid i ffermio fod yn llewyrchus a chynaliadwy.