WELSH COLUMN
MENNA ELFYN
MAE caeau wastad wedi bod yn ddirgelwch melys i mi a hynny ers fy mhlentyndod pan fyddwn yn aros gyda mam-gu a dad-cu yn Llysderi, Drefach, Penboyr, gan whilmentan yn y caeau ochr draw i’r tŷ.
Ym Mrynsiriol wedyn, arferwn gerdded cae Rhydyrhaw wrth ymyl y Mans yn Peniel, yn sylwi ar hyfrydwch y caeau ac ar fferm Tyllwyd, Felingwm, rhyfeddwn at y gwahanol fathau o gaeau a oedd at bwrpasau amrywiol.
A dyna pam imi lamu mewn llawenydd o gael darllen cyfrol gyfoethog “Cerdded y Caeau” gan Rhian Parry o Wasg y Lolfa. Mae’r gyfrol yn un a ddylai fod at ddant pob siort o ddarllenydd: boed yn fap-o-benboethyn neu’n eithafwr ieithyddol neu jyst yn berson sy’n frwd i amsugno hanes ein daear ni yma yng Nghymru.
Mae enwau rhai o’r caeau fel cerddi bychain sy’n crynhoi bydoedd – dyna ichi Cae Saffrwm neu Cae’r Helbul. Beth ddigwyddodd yn fanno tybed? Caeiorwedd? Neu ai Cae Iorwerth ydoedd ond mae “Caeiorwedd” yn llawn mwy diddorol, onid yw?
Nid oes gofod gennyf yn y golofn hon i ddweud llawer dim ond estyn gwerthfawrogiad. Gallwn ddilyn olion troed yn ôl i’r cyfnod cynnar yn ein hanes, yn rhychau a gryniau sy’n perthyn i’r Oesoedd Canol. Codi cnydau, aredig, cadw anifeiliaid, mae holl amrywiaeth y byd amaethu yma. Mae’r gair cae yn un diddorol, ac ni wyddwn mai ystyr gwreiddiol cae oedd gwrych ond a drodd wedyn yn “faes tu mewn i’r gwrych”, yn dir wedi ei amgau. Diddorol hefyd yw’r enwau ar ddarnau o dir fel parsel, parth a thraean fel ffordd o fesur tir.
Wrth imi ffoli ar gyfrol fel hon sydd yn atgyfodi hen enwau ac yn ceisio cloriannu a chofnodi tiroedd mae rhywun yn ymwybodol o hyd o ba mor ansefydlog yw’r tiroedd. A’r modd y collir neu newidir enwau ar hap. Heb sôn am y cwmnioedd sy’n bachu ffermydd a thiroedd o dan y rhith eu bod yn achub y blaned.
A beth ddaw o’r caeau mawr fu’n tyfu gwenith yn Wcráin sy’ bellach yn aredig arfau diffrwyth gan ddifetha’r caeau am genhedlaethau i ddod? Wrth ddarllen y llyfr hwn mae’n anodd peidio â meddwl am sefyllfa amaethu all oroesi’r dinistr. Yn y baw a’r llaca, mi fydd hi fel y Rhyfel Byd Cyntaf medd rhai, medd eraill fel yr Ail Ryfel Byd. Ymhell bell yn ôl yn hanes ein gwledydd yr oedd yna “gae gwirionedd” y tu allan i dreflan i farnu’n deg y gwahanol anghytundebau. Carwn pe bai modd i’r dyn sy’n codi ei ddwrn yn erbyn y byd ond o’i unfan unig – i weld glesni caeau Wcráin. A’i gosb os daw – i orfod cerdded caeau, gwrychoedd, ffriddoedd a ddinistrwyd ganddo a’i giwed a’i orfodi i drin y tir eto. “Cae breuddwyd”, efallai?
Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant