Dylwn ni ddilyn yr Almaen gyda thrydan
YN EIN bywydau beunyddiol mae cyflenwad trydan dibynadwy a fforddiadwy yn hanfodol ac yn y gorffennol rydym wedi defnyddio glo, olew neu nwy i gynhyrchu’r trydan.
Ond yn gynyddol rydym wedi dysgu bod y tanwyddau hyn yn difrodi’r amgylchedd, a hefyd maen nhw’n feidrol – daw dydd pan ni fydd unrhyw beth yn weddill.
Mae llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cynlluniau egni sy’n cynnwys adeiladu wyth atomfa a fydd yn cynhyrchu 25% o’n trydan ni.
Pan cafodd yr atom ei awgrymu fel modd i gynhyrchu trydan roedd pawb yn disgwyl gwawr oes newydd; dywedwyd yn 1954 y byddai trydan y dyfodol yn “rhy rhad i’w fesur”. Dych chi’n ei gofio?
Sut mae pethau wedi newid ers hynny. Rydym yn sylweddoli nawr bod atomfeydd yn costio biliynau o bunnau i’w hadeiladu, maen nhw’n ddrud dros ben i’w cynnal, ac mor ddrud ag erioed yw’r trydan maent yn ei gynhyrchu.
Ond mae yna newyddion gwael: o dro i dro mae angen disodli’r gwialennau tanwydd yn yr adweithyddion am eu bod wedi’u treulio.
Er hynny, bydd y gwialennau hyn yn aros yn ymbelydrol dros ben ac
felly mae’n rhaid eu cadw rhywle diogel nes nad ydyn nhw’n beryglus – am ganrifoedd.
Heb os safleoedd dan ddaear yw’r ateb gorau, ymysg creigiau sy’n hynafol yn ddaearegol, megis creigiau mewn ardaloedd o Gymru. Ond pwy sydd eisiau gwastraff ymbelydrol fel hyn ar eu trothwy? Hyd yn hyn, does unman yn y DU wedi gwirfoddoli.
Hefyd, bydd atomfeydd yn gyffredin yn gweithio am oddeutu 40 mlynedd.
Ar ôl hynny mae’n rhaid i ddechrau eu digomisiynu, gwaith sy’n para am ddegawdau. Pryd fydd yr ardal yn ddiogel? Does neb yn gwybod. Yn bendant y bydd ôl troed yr adweithyddion yn aros yn llygredig am filenia.
Mae damweiniau yn digwydd. Tasai damwain ddifrifol yn Wylfa, yn debyg i ddamwain Chernobyl, byddai angen gwacáu Ynys Môn yn syth, a byddai’n aros yn anialdir am lawer o flynyddoedd; mewn effaith, câi hanner gogleddol Cymru ei ddifrodi’n ddifrifol.
Felly gad inni obeithio y bydd San Steffan yn ailfeddwl. Mae’r Almaen yn rhoi’r gorau i’w pwer atomfa ac yn datblygu tarddiadau egni sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy, fel tonnau, heulwen a gwynt: dylwn ni ddilyn y llwybr Almaenaidd heb oedi. Patrick Soper
Hwlffordd