WELSH COLUMN
DYLAN IORWERTH
Gwleidyddiaeth ryfedd cynghorau lleol
Heddiw, llai na’n hanner ni fydd yn mentro allan i’r bythau pleidleisio i ddewis cynghorwyr newydd; mewn rhai ardaloedd mi fydd hi’n llawer iawn is na hynny.
Er bod gynnon ni’r enw o fod yn genedl ofnadwy o blwyfol, dydi gwleidyddiaeth leol bellach ddim yn cynhyrfu llawer ar unrhyw ddyfroedd.
Un rheswm am hynny ydi fod cynghorwyr lleol yn llawer iawn llai pwerus nag oedden nhw, hyd yn oed y rhai sy’n cael y swyddi pwysig ar gabinet y cynghorau.
Tros y blynyddoedd, mae eu cyfrifoldebau nhw naill ai wedi cael eu tocio neu eu penderfynu’n fanwl gan benderfyniadau llywodraeth.
Mae’n rhaid i arian gael ei wario mewn ffyrdd arbennig, mae’n rhaid cyflawni’r cyfrifoldeb yma a’r cyfrifoldeb arall ac, os nad ydi’r arian ar gael o gwbl, fedran nhw ddim gweithredu.
Addysg a chynllunio oedd y meysydd mawr erstalwm. Bellach, mae yna gwricwlwm cenedlaethol a chanllawiau ariannol caeth ac mae’r llywodraeth eisoes wedi dweud fwy neu lai be ydi’r meini prawf ar gyfer codi adeiladau.
Mi aeth yr hen ddyddiau pan oedd ambell gynghorydd fel petai o (a fo oedd o fel rheol) yn rhedeg rhyw fath o frenhiniaeth fach breifat. Roedd gan bob cyngor sir un ohonyn nhw – arweinydd pwerus oedd yn dal tynged ardaloedd yn ei law.
Mae etholiadau cynghorau’n wahanol i unrhyw etholiadau eraill. Un o’r gwersi cynta’ i riportar gwleidyddol ydi peidio â mentro rhoi barn rhy bendant ar beth fydd yn digwydd ynddyn nhw. Mi all un mater bach – o faw ci ar balmentydd i ddiffyg bysys – fod yn ddigon i newid dyfodol sedd.
Pan fydd yr etholiadau heibio, mi fydd hi’r un mor anodd dweud pam yn unionfod pobl wedi pleidleisio un ffordd neu’r llall a pham fod canlyniadau’n gallu bod yn gwbl wahanol o un ward i’r ward drws nesa’. Mi fydd materion cenedlaethol yn cael effaith – er eu bod nhw’n amherthnasol – ond mi all cymeriad ymgeisydd unigol wneud gwahaniaeth hefyd.
Dim ond yn y trefi a’r dinasoedd, ar y cyfan, y mae’r holl bleidiau yn mynd ben-ben. Yn y wlad, os bydd yna etholiad o gwbl, rhyw un neu ddau ymgeisydd fydd a dim ond rhai o’r pleidiau. Mi all roi awgrym o sut y bydd pethau mewn etholiad cyffredinol, ond awgrym tenau iawn.
Erstalwm, wrth gwrs, annibynnol oedd yr ymgeiswyr yn y rhan fwya’ o gynghorau lleol Cymru ac roedd yna ambell i egwyddor soled ynghlwm wrth yr arfer hwnnw – mai yno i gynrychioli pleidleiswyr oedd cynghorydd lleol, nid i chwarae gwleidyddiaeth.
Mae’r syniad yn fwy anodd ei lyncu pan welwch chi gynghorwyr annibynnol yn creu grwpiau, yn penderfynu ar bolisïau ar y cyd ac yn trefnu swyddi rhyngddyn nhw a’i gilydd. Mi ddylai plaid annibynnol fod yn greadigaeth gwbl amhosib.