Gŵyl sy’n cynnig rhywbeth i’r teulu oll
YN ÔL y trin a’r trafod bydd cefnogaeth dda i’r Tyddyn a Chefn Gwlad eleni.
Fe’i cynhelir ar Ddydd Sadwrn a dydd Sul, Mai 21 a 22 a thro Clwyd yw hi i noddi. Bydd yr yn siwr o fodloni ysfa cymdeithas i gael cwrdd a gweld ein gilydd wyneb yn wyneb unwaith eto.
Er erchylltra’r coronafeirws deilliodd ar i nifer o bobl o’r newydd ymddiddori mewn garddio. Gwelwyd tair miliwn yn rhagor o arddwyr yn sgil y pandemig a bydd nifer o’r rhain yn eiddgar i fanteisio ar y cyfle i ddod i’r
Daeth ymwneud â’r tir yn arfer holl bwysig; edrych ar ei ôl; codi llysiau a ffrwythau ar gyfer y ford fwyd. Mae’r cyfan wedi ein deffro a’n hargyhoeddi unwaith yn rhagor pa mor bwysig yw ein perthynas â byd natur fel rhan o’n cyfundrefn i sicrhau iechyd meddwl a chorfforol.
Calonogol yw deall fod y genhedlaeth iau yn chwilfrydig ac yn mwynhau garddio. Drwy gynhyrchu bwyd yn lleol mae’r ôl troed carbwn yn isel a hynny yn cyfrannu at gydbwysedd yr amhylchedd a’r hinsawdd. Nid yw’r bwyd yn cael ei gynhyrchu tramor nac yn teithio milltiroedd lawer.
Bellach mae’r Llywodraeth yn annog pobl i godi llysiau a ffrwythau yn eu gerddi a phrofwyd y gall tŷ â gardd fod yn fwy o werth ar y farchnad. Wrth i lawer o dai fod heb dir cymwys i godi cynnyrch, tybed a ddylai cynghorau cymuned ym mhob ardal sicrhau tir addas neu randir fel cyfle i bobl ddilyn eu diddordeb mewn garddio?
Yn yr Ŵyl Wanwyn, ceir cyfle i dderbyn gwybodaeth gan arbenigwyr yn y maes. Bydd arddangosfeydd yn dangos sut y gall gardd neu ychydig o dir fod yn gyfrwng i gynnal y teulu â bwyd gan dorri lawr ar y costau.
Dros y deuddydd trefnwyd rhaglen amrywiol a diddorol i’r teulu cyfan. Gweithgareddau addysgiadol ac adloniant gyda chyfle i’r teulu oll gymryd rhan. Digon i gadw pawb yn brysur ac yn hapus drwy’r dydd.
Cewch weld gwahanol fridiau o dda byw a bridiau prin. Bydd yno arddangosfa arbennig o hen offer neu beiriannau ar gyfer eich tyddyn mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol.
Gwelir yma sioe geffylau, sioe gŵn, geifr ac amrywiol arddangosfeydd a chystadlaethau trydanol ym mhrif gylch y sioe. Cewch fwynhau’r cyfan yn eisteddle’r prif gylch.
Os nad ydych wedi bod yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad o’r blaen, dewch â’r teulu oll. Ni chewch eich siomi.