Western Mail

WELSH COLUMN

MENNA ELFYN

- Walesonlin­e/cymraeg

Y GALLU i “wrando”. Mae’n ddawn arbennig ac un nad ydym fel cymdeithas wedi ei meistroli yn ddigonol.

A na, nid sÔn am Brif Weinidog yr ynysoedd hyn yr ydw i, ond cyfeirio atom oll.

Gwendid ein cyfryngau cymdeithas­ol yw rhoi “llais” i bobl ond heb ddarparu’r sgil i wrando ar wahanol safbwyntia­u.

Un o’r swyddi mwyaf diddorol a gefais yn ystod fy ngyrfa oedd asesu dawn plant 10 oed i wrando, ymysg sgiliau eraill fel ysgrifennu, darllen a llefaru.

Dawn gymhleth ar y naw yw “gwrando”. Efallai inni ramantu’r oesau a fu pan oedd ein hynafiaid yn eistedd o gwmpas rhyw goelcerth yn gwrando ar ddawn y cyfarwydd yn traethu neu yn ein cyfnod ni y gallu i wrando ar ddarlithwy­r neu bregethwyr.

Roedd un o’m perthnasau annwyl yn hoff iawn o ganmol ambell i bregethwr ond pan holwn beth oedd ei neges doedd ganddi’r un syniad beth ddwedodd – dim ond dweud ei fod yn dweud ei “bishin” yn dda ac yn gallu parablu. Yr un perthynas gyda llaw oedd yn darllen nofelau, wel hynny yw yn darllen y bennod neu ddwy gyntaf, yna’n troi at y bennod olaf gan ddychmygu’r gweddill.

Ond ynghylch y ddawn i wrando, pan ofynnwyd i Grace Paley, awdur storiau byrion yn America am ei dull o ddysgu ysgrifennu creadigol yn y brifysgol ei hateb syml oedd “I listen”. A dyna’r ffordd orau onide? Pan oeddwn innau yn dysgu ysgrifennu creadidgol ar gwrs MA weithiau mi fyddwn yn cynnal sesiynau lle byddai’r ysgrifenwy­r yn darllen yn uchel, a phawb yn gorfod gwrando yn astud cyn cynnig barn. Bryd arall, byddai’n rhaid i bawb gyflwyno eu gwaith i’r gweddill ac ni fyddai hawl gan y sawl oedd a’i g/waith dan sylw i yngan gair o amddiffyni­ad neu dorri ar draws ymatebion hwn, hon ac arall.

Eistedd yn llonydd a derbyn barn y lleill oedd y gamp a’r rheiny wedi llunio yn ysgrifened­ig ymlaen llaw eu hymatebion yn annibynnol. Clust i wrando, ddwedwn fel y ddihareb o Rwsia – Canmolwch yn uchel, beiwch yn dawel.

Ond oes modd gweld beiau yn dawel bellach? Dyna sy’n fy ngwneud yn annifyr pan rwy’n pipo miwn ar y Gweplyfr a gweld yr hyn a gyfrifaf yn rhagfarnau afiach. Cau’r cyfrifiadu­r yn glep a wnaf weithiau a theimlo’n euog bryd arall nad wyf wedi ymateb neu fynegi barn. Duw a’n gwaredo nad awn fel America pan yw “gwrando” yn dibynnu a ydych o blaid cario dryll neu o blaid hawl y ferch dros ei chorff ei hun. Ie, gwae’r rhai sydd yn dweud llawer ond yn gwrando dim. Mae gormod o arweinwyr “honedig” yn dod i’r meddwl.

Ond dychwelaf at “wrando” gan obeithio am oleuni oddi uchod. Efallai. ■ Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom