Dweud eich dweud ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
‘PEIDIWCH AG EISTEDD ADRE’N CWYNO AM IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL – MAE GANDDOCH CHI GYFRANIAD I’W WNEUD, A DOES DIM UN CYFRANIAD YN RHY FACH’
MAE corff newydd annibynnol wedi lansio yng Nghymru i gynnig cyfle i bob person a chymuned helpu i wella a dylanwadu ar iechyd a gofal cymdeithasol i bawb.
Mae Llais yn cymryd lle gwaith cadarnhaol saith Cyngor Iechyd Cymuned Cymru, a’i nod yw ymgysylltu â phawb sy’n byw yng Nghymru.
Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant Llais, trwy wrando ar farn pobl eraill a chyflwyno’r adborth i Llais, sy’n gweithredu’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, Cwm Taf Morgannwg, Gwent, Gorllewin Cymru, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, y gogledd a Phowys.
Bydd gwirfoddoli yn apelio at wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, a does dim ots faint o amser sydd ar gael gennych, boed yn llawer neu’n ychydig, mae Llais yn awyddus i glywed gan gymunedau amrywiol Cymru. Mae cymryd rhan yn bwysicach nag erioed.
PROFIAD PERSONOL
Roedd gan Bamidele Adenipekun o Abertawe resymau personol iawn am ddod yn aelod o fwrdd gweithredol Llais haf diwethaf, yn ystod cyfnod datblygu’r sefydliad.
Mae ganddi brofiad gwerthfawr o ofal iechyd yng Nghymru, fel claf canser y fron a gofalwr i’w mam a’i chwaer. Yn anffodus bu farw’r ddwy yn 46 oed.
Mae Bami, sy’n fam i un, bellach yn 46 ei hunan, ac mae’n cofio taith tair blynedd ei mam â chanser y fron yn 1993 a cholli ei chwaer i’r un clefyd yn 2017, chwe blynedd ar ôl ei diagnosis.
Meddai’r awdur, yr ymchwilydd academaidd a’r ymgynghorydd lles: “Mae canser y fron wedi bod yn rhan o fy mywyd ers 33 o flynyddoedd drwy fy mam, a fy chwaer, a dwi’n glaf hefyd.”
CYFNOD ANODD
Er iddi wneud y penderfyniad mawr o gael mastectomi dwbl ataliol yn 2014, ddwy flynedd ar ôl canfod celloedd cyn-canser yn ei bronnau, darganfu Bami mewn apwyntiad ôl-llawdriniaeth bod canser y fron cynnar eisoes ganddi.
Dewisodd therapi hormonau i ostwng ei lefelau estrogen yn lle cemotherapi i atal ei chanser rhag tyfu, a dewisodd hysterectomi llawn a llawdriniaeth i dynnu ei hofarïau.
Ychwanegodd: “Diolch byth, fydd y rhan fwyaf ohonon ni ddim angen gofal cymdeithasol neu iechyd yn barhaus drwy ein bywydau, ond pan mae ei angen arnon ni – o’r crud i’r bedd rydyn ni’n ei brofi ar adegau pan fyddwn ni’n fregus.”
Mae Bami’n dal i gael ei thrin ag exemestane a meddai: “Does dim ots am lwyddiant a gwobrau pan fyddwn ni’n camu i mewn i’r ysbyty fel claf.”
“Mae’n gyfnod heriol, a dyma pam mae Llais yn canolbwyntio ar sicrhau urddas i bob un person yng Nghymru, beth bynnag yw eu statws. Does dim ots am y pethau yma pan ddaw at degwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
“Pan rydych chi mewn cysylltiad â’r system gofal iechyd, rydych chi’n gweld y da, y drwg, a’r hyll. Ac mae hynny’r un fath am ofal cymdeithasol.”
RHANNU EICH PROFIADAU
Mae Bami bellach yn rhydd rhag canser ers naw mlynedd, ac mae’n awyddus i annog unrhyw un sydd ag unrhyw brofiad o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wirfoddoli a rhannu eu safbwyntiau.
Meddai: “Hyd yn oed os taw dim ond ychydig oriau sydd ganddoch chi, mae digonedd o gyfleoedd hyblyg ar gael i bobl a all greu newid gymryd rhan.”
“Peidiwch ag eistedd adre’n cwyno am iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn ni’n mynd allan i weld pobl, yn cwrdd â phobl lle bynnag maen nhw, lle bynnag sydd hawsaf
iddyn nhw, dim ots pa mor bell, a byddwn ni’n gwrando arnynt.”
“Does dim ots os ydych chi’n 17 neu’n 40 oed, os oes ganddoch chi deulu neu os ydych chi’n byw ar eich pen eich hunan – mae hyn yn effeithio arnoch chi. Mae ganddoch chi gyfraniad i’w wneud, a does dim un cyfraniad yn rhy fach. All neb wneud newidiadau mawr ar eu pen eu hunain – nod y corff newydd yma yw rhoi teimlad o berthyn i bob dinesydd yng Nghymru.”
LLAIS DINASYDDION GWIRIONEDDOL GYNRYCHIOLIADOL
Mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd wedi annog pobl yng Nghymru i sicrhau bod eu barn yn cael ei gynrychioli.
Meddai: “Bydd Llais yn cryfhau lleisiau a chynrychiolaeth pobl, yn eu galluogi nhw i leisio’u barn, ac yn eu helpu i siapio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.”
“Bydd Llais yn helpu i adeiladu mwy o gysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau, gan hyrwyddo
llais y dinesydd sy’n wirioneddol gynrychioliadol i bawb, o bob oed, ble bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru.”
Mynnodd Bami fod cydweithio yn allweddol i lwyddiant Llais: “Ar ddiwedd y dydd, un pwrpas cyffredin sydd ganddon ni i gyd: i bawb yng Nghymru gael eu cefnogi’n dda i fyw’n dda. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi gosod yr uchelgais yma, ac nid cyfranogwyr goddefol ydyn ni.”
“Mae angen cael gwared â rhwystrau rhag mynediad, ac mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ein dwylo ni, beth bynnag yw ein statws economaidd.”
“Mae’ch llais chi’n cyfri. Dydyn ni ddim yn rhagweld mai taith fer fydd hon – bydd yn farathon a bydd yn cymryd amser, ond dyma yw ein hymrwymiad. Mae’n doriad gwawr yng Nghymru, ac mae croeso i bob llais. Mae Llais yn sefydliad unigryw sydd yno i bawb.”
EISIAU GWYBOD MWY?
Rhowch eich barn ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i: www.llaiscymru.org