Western Mail

WELSH COLUMN MENNA ELFYN

-

AI… Na nid cwestiwn yw. Yn y gorffennol roedd dyn AI yn golygu rhywbeth arall – af i ddim i fanylion – ond erbyn heddi mae deallusrwy­dd artiffisia­l yn boddi ein newyddion a’r cyfryngau.

Robotiaid yw un o’r geiriau sydd yn gyson yn destun trafod ond mae’r dechnoleg yn llawer mwy cyfrwys na hynny wrth i “gadw golwg” arnom fod yn rhan o weithgarwc­h bydeang bellach.

Allwch chi ddim troi cornel (wel, gallwch hyd yma yng Nghaerfyrd­din, am wn i) heb ichi gael eich cofnodi mewn rhyw ffordd neu gilydd. Digwyddodd hynny yn Llandysul un tro pan ddaeth rhai i osod camerâu cudd uwchben y sgwâr ond anghofiwyd dweud wrth yr heddlu lleol sut oedd eu gweithio ac yna, ymhen hir a hwyr, daeth y dynion go iawn (!) unwaith eto, i ddatod y cyfan.

Ond yn ôl y sôn Prydain sydd â’r nifer mwyaf o gamerâu cadw golwg ar bobl yn Ewrop per capita, gyda CCTV, un ar gyfer pob 10 person. Gallwn ymhelaethu ond fe welwch y darlun. Na, welwch chi mo’r darlun achos fe fydd yn guddiedig rhagoch. Gyda llaw, Tsieina sydd â’r camerau mwya mewn lle o bob man sy’n ddealladwy gyda’r boblogaeth enfawr.

Cawn ein hadnabod yn barod yn ôl ein llygaid, olion bysedd hyd at gysylltu’r person a’i cherbyd mewn chwinciad, a gallan nhw hyd yn oed o weld wyneb nodi ein hoed, ein cenedl a llawer peth arall. Tybed a fydd y pethau yma’n gwybod fy mod yn berchen ar ddwy gath? Pam lai.

Ond yn nes adre, mae gan rai o’m cydnabod Alexa yn y tŷ ac mae’n medru gwneud pob mathau o gampau ac yn dda am atgoffa rhywrai o bethau sydd eisie neu, heb eu gwneud. Wir ichi pan wnaeth rhywun gyflwyno fi iddi y tro cynta hanner ddisgwylwn weld rhyw anifail blewog yn cerdded ataf yn hytrach na theclyn ar “ynys cegin”.

Un o’r arbrofion mwyaf dwl imi ei ddarllen oedd ymgais y BBC i ddod o hyd i ohebydd oedd ganddynt mewn dinas fawr yn Tsieina. A wyddoch chi beth – daethpwyd o hyd iddo o fewn saith munud gyda llygaid pwerus yr AI.

Enw’r arbrawf oedd “Where’s Waldo?” Gwell gen fy hun ddarganfod Waldo ymysg “Dail Pren”!

Yn rhyfedd iawn, fe luniodd Eluned Phillips ddrama rywbryd yn yr ’60au hwyr (yn ôl y teipysgrif) gan ragweld dyfod robotiaid. Enwodd y robot yn “anfarwol”. Mae hynny ynddo’i hun yn dangos iddi hithau feddu ar ddychymyg a oedd yn anfarwol.

Ond yn ôl at y presennol. Tybed ymhen blwyddyn neu ddwy fydd gen i robot yn y tŷ all roi bwyd i’r ddwy gath sydd gennyf sy’n barhaus yn mewian am ragor...

Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

walesonlin­e/cymraeg

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom