WELSH COLUMN
MAE’N siwr mai fy mam ydi un o’r ychydig bobol sy’n fyw sy’n cofio Eisteddfod Genedlaethol gynta’r Urdd.
Rhyw frith gof sydd ganddi o fod yn hogan fach ynghanol y gorymdeitho yn Nghorwen yn 1929 ac o’i chwaer yn cystadlu ar yr adrodd, ond roedd o’n amlwg yn ddigwyddiad a wnaeth argraff.
Mi fydd gan gannoedd o filoedd o bobl rhyw gof o’r Urdd; os nad o’r Eisteddfod, o rhyw drip, jamborî neu wyliau yn y gwersylloedd.
Y noson o’r blaen, roedden nhw’n ailddangos rhaglen lle’r oedd criw o bobl heddiw wedi mynd yn ôl i fersiwn wedi’i ail-greu o wersyll Llangrannog tua diwedd y ‘60au, efo’i bebyll gwyn a’r cytiau pren i’r merched.
Dyna oedd fy union gyfnod i yno pan nad oedd fawr mwy o adnoddau na champfa bren a ffreutur a mymryn o siop. Doedd y merlod, hyd yn oed, ddim yn wersyllwyr bryd hynny.
Un gybolfa ydi’r atgofion, o ganu yn y gampfa ddiwedd nos, o gerdded at Ynys Lochdyn neu i lawr i’r pentre’ a mentro i’r môr efo cadwyn o swogs yn creu hanner cylch o’n hamgylch.
Roedd swogs – y gwirfoddolwyr ifanc oedd yn gofalu amdanon ni – yn arwyr; ambell un yn chwarae gitâr, un neu ddau’n bêl-droedwyr da, rhai’n wirion, rhai’n gall a rhai’n fentrus. A ninnau blant rhwng deg a phedair ar ddeg yn hanner addoli’r rhai mwya’ cwl (cyn i’r term gael ei fathu).
Mae’n hawdd i rai fel fi ramantu am y dyddiau hynny, cyn codi’r hongleidiau o adeiladau (diolwg braidd) sydd bellach yn tra-arglwyddiaethu tros y llethrau uwch Bae Ceredigion. Ond, flynyddoedd lawer yn ôl, mi ges i dipyn o wers.
Trio cadw criw o blant bach yn ddiddig yr oeddwn i wrth eu gyrru i Langrannog ar gyfer parti pen-blwydd a sôn am yr hen ddyddiau.
Dyma ddweud yn atgofus am symlder y profiad erstalwm, heb bwll nofio na neuadd chwaraeon, heb welyau cyfforddus na hyd yn oed le i gael cawod.
A finnau’n disgwyl ymateb llawn edmygedd, dyma lais treiddgar o gefn y car yn gofyn y cwestiwn sylfaenol: “pam o’ch chi’n mynd yno te?”
Doedd gen i ddim ateb mewn gwirionedd; yr un ateb a fyddai’n gwneud sens i un o blant nawdegau’r ganrif ddiwetha’. Ond yn Llangrannog y des i’n ymwybodol am y tro cynta’ o wlad gyfan o blant Cymraeg.
Un o ogoniannau’r lle – a Glan-llyn wedyn – oedd eu bod yn wahanol i’r ysgol. Nid rhan o’r byd addysg oedden nhw.
Yn ddiweddarach dyna gryfder yr Aelwyd hefyd – clwb lle’r oedd pobl heblaw athrawon yn dangos sut i fyw.
Ar y dechrau, roedd yr Urdd yn cynnig bywyd Cymraeg nad oedd ar gael mewn ysgolion. Yr un ydi’r angen heddiw.