Pwysigrwydd cadw cwn dan reolaeth
O GANLYNIAD i’r cyfnod clo ac yn sgil y pandemig Covid 19 mae yna 20% yn rhagor o berchnogion cwn yn y wlad.
Golyga hyn y bydd nifer ychwanegol yn cerdded eu cwn ar lwybrau cyhoeddus sy’n mynd drwy dir fferm.
Achosa hyn bryder i ffermwyr na fyddant yn ddigon gofalus, heb ddilyn y canllawiau angenrheidiol i gadw’r ci ar dennyn rhag ofn y gall redeg ar ol defaid a’u lladd. Mae rhai bridiau o gwn sy’n reddfol yn fwy tebygol o wneud hyn.
Efallai na sylweddolir y gellir eu dysgu i fod dan reolaeth, drwy bwyll ac amynedd. Gall hyn fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o berchnogion cwn a medrant gael llawer o bleser wrth hyfforddi’r ci yn yr elfennau sylfaenol.
Un ffordd effeithiol iawn yw prynu pelen o gordyn 50 medr o hyd. Mae digon ar y farchnad am bris rhesymol o £5. Yna clymu’r cordyn wrth gadwyn y ci. Mae hyn yn gwbl angenrheidiol er mwyn atal y ci rhag cnoi a thorri’r cordyn. Gadael y ci i redeg hyd y cordyn gan weiddi, ‘STOP.’ Yna rhoi gorchymyn iddo ddod yn ol, a’i alw wrth ei enw cyntaf ac yna dweud, ‘that will do.’
Medrwch ddefnyddio geiriau Cymraeg ond os ydych am ei roi ar y farchnad, mae’n fantais ei fod wedi ei ddysgu yn Saesneg.
Rhaid gofalu defnyddio yr un geiriau bob amser mewn llais eglur, fel bod y ci yn clywed.
Efallai nad oes gan bawb yr hyder i ddysgu ci. Yn sicr, mi fydd rhywun yn yr ardal yn barod i’ch cynorthwyo, ond gellir cael rhai pobol i wneud hyn trwy dal. Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw cadw ci dan reolaeth. Gwneir pob ymdrech gan y Llywodraeth i geisio argyhoeddi perchnogion cwn mai eu cyfrifoldeb nhw yw eu cadw dan reolaeth wrth gerdded allan yng nghefn gwlad.
Rhoddwyd nifer o bosteri yn yr ardaloedd lle mae cerdded ci fwyaf tebygol gyda’r slogan ‘Take a lead.’ Yn anffodus, araf iawn mae’r sefyllfa yn gwella. Yn ddiweddar, gwnaed ymchwil gan Gymdeithas Cenedlaethol y Defaid Yn ystod y deuddeg mis diwethaf roedd 70% yr aelodau wedi cael profiad o gwn yn llabyddio a lladd defaid.
Gwelwyd lluniau torcalonnus o gi wedi lladd 8 oen a llabyddio eu mamau, gan ddechrau bwyta’r oen cyn iddo farw. Ni ellir caniatau hyn ar unrhyw delerau.