WELSH COLUMN
Mae yna amryw eisoes wedi tynnu sylw at greulondeb y berthynas rhwng dwy o straeon newyddion mawr yr wythnos ddiwetha’.
Ar un llaw, roedd yna fath o obsesiwn efo drama’r Titan, y llong danfor fach a aeth i drybini wrth chwilio am fehemoth anferth y Titanic.
Ar y llall, doedd yna fawr ddim sylw i’r cannoedd a fu farw yn ceisio croesi o Affrica i Ewrop.
Un stori am bump dyn cyfoethog oedd heb ddim gwell i’w wneud â’u harian na mynd i fusnesa yng ngweddillion trychineb – fel trefnu parti mewn mynwent.
Y stori arall am bobl heb arian yn mentro’u bywydau – heb wybod y peryglon yn iawn – er mwyn gwella’u bywydau rhyw fymryn ac ennill arian i fyw.
I’r teuluoedd, mae pob colled yn cyfri’ ond roedd mathemateg newyddion yn dangos fod bywydau pump o gyfoethogion yn bwysicach na channoedd o dlodion.
Oes, mae yna ryw fath o ramant gwyrdroedig o amgylch llongddrylliad y Titanic ac oedd, roedd yna ddrama wrth feddwl am bum person yn gaeth mewn capsiwl o dan y môr a thimau yn ceisio’u hachub, ond roedd yr holl sylw y tu hwnt i reswm.
Roedd o’n fwy na phenderfyniad staff mewn stafelloedd newyddion – yn bapurau newydd, yn deledu neu gyfryngau digidol newydd.
Roedd yn ymwneud â’r fytholeg yr yden ni wedi eu creu am y byd a sut y dylai o fod.
I lawer bellach, nid straeon arwrol ydi’r rhai am bobol yn trio dianc rhag tlodi a newyn, yn teithio cannoedd neu filoedd o filltiroedd i drio creu dyfodol.
Yn ôl stori fawr y dyddiau yma, pobol ofer ydi’r rheiny, yn ceisio manteisio ar eraill.
Y stori arwrol ydi’r un am bobol sydd eisoes â digonedd yn ymdrybaeddu yn hynny wrth gyflawni uchelgais hunanol... ar dripiau i gyrion y gofod neu i ddyfnderoedd y môr.
Neb yn holi am yr effaith amgylcheddol nac am gost gwasanaethau brys.
Mae stori llong danfor y Titan yn rhyw fath o chwedl fodern, yn union fel yr oedd stori’r Titanic ei hunan – mae’n ymwneud â hunandyb y ddynolryw, yn adlais o’r hen stori glasurol am Icarws a’i adenydd bregus.
I’r unigolion ac i’r teuluoedd, wrth gwrs ei bod hi’n stori drasig ond mae yna wahaniaeth moesol sylfaenol rhwng trychineb sy’n ganlyniad i benderfyniad personol a thrychineb sy’n digwydd am nad oes yna ddewis arall.
Fydd yna ddim pen draw i alar y fam a roddodd ei sedd yn y llong danfor i’w mab ond fydd yna ddim cysur chwaith i’r miloedd o famau sydd naill ai wedi pledio ar eu plant i beidio â gadael eu cartrefi yng ngwledydd caleta’r byd neu wedi eu gweld yn gadael â gobaith am fywyd gwell.