WELSH COLUMN
ER TEITHIO i fannau pell yn ystod y blynyddoedd a fu, does unlle yn rhoi mwy o bleser i mi na theithio i fan ym mae Ceredigion. I fod yn fwy penodol i Langrannog.
Rwy wedi colli cownt o’r gwyliau a dreuliais mewn llecyn yno wyneb yn wyneb â’r môr. Mae ei hanes yn ddigon i wneud i rywun ryfeddu o’r cyfnod cynharaf hyd at heddi.
Anodd credu filoedd ar filoedd o flynyddoedd yn ôl nad oedd Llangrannog ar yr arfordir o gwbl ond yn wastadedd lle roedd pobl yn hela a chasglu bwyd fel y gallent a hynny cyn i lefel y môr godi a chyfnod yr oes ia ddisgyn.
Mae cerdded draw i Lochtyn bob amser yn bleserus er mor serth yw er fod rhai’n amau mai Llychlyn neu Llychdyn oedd tarddiad yr enw gyda rhywun o dras Sgandinafia yn anturio’r mannau hynny.
Mae’n Ŵyl Banc Mai ac er hanes y dydd arbennig hwn o weithwyr ar draws y byd yn ei ddathlu, am ryw reswm dyw e ddim yn teimlo felly. Does fawr o ysbryd jolihoetian yma.
I ddechrau mae’n dawelach – hwyrach am fod yr esgid (neu’r boced) fach yn gwasgu. Y tro diwethaf i mi fod yma doedd dim modd mynd heibio i Garreg Bica am fod rhuban coch ar draws y traeth yn rhybuddio’r cyhoedd fod morlo newydd eni un bychan a’r ofn y byddai pobl yn hala ofn ar y fam, a hithau o ganlyniad yn gadael ei newydd anedig ar ôl.
Mae rhyw swyn anghyffredn yn y rhan hon o Gymru, gyda’i chlwstwr o draethau – o Mwnt i Benbryn, Cwmtydu a Chei Newydd gerllaw , heb anghoifo Tresaith a Penbryn.
Mae hanes y llongau a fyddai’n hwylio o le i le yn cario nwyddau yn rhan o’n chwedloniaeth ac wedi eu anfarwoli hefyd gan straeon T Llew Jones yn bennaf.
Hoffaf syniad y diweddar Jan Morris a gredodd fod arfordir Cymru fel pe bai’n edrych allan ar y byd tu hwnt iddi.
“Gweld y môr gynta” yw un o’r cerddi rwy’n dal i deimlo yn falch o fod wedi ei chreu o gofio cyffro fy mrawd a minnau am “fod y cynta i weld y môr” wrth yrru o Gwm Tawe yn blant. Un o linellau’r gerdd yw ei fod “yr agosa y down at ddarganfod gwir ryfeddod”.
Mae yna atyniad arall yn Llangrannog bellach, sef y cerflun neu’r gofgolofn chwaethus ac urddasol o’r bardd Cranogwen sydd wedi ei gosod mewn gardd ynghanol Llangrannog. Roeddwn mor falch o allu trafod ei gwaith gyda’r ceflunydd wrth iddo gynllunio’r gofgolofn nodedig ac onid yw’n ddiddorol sylwi bod dwy “fardd” benywaidd a chanddynt erddi i’w cofio sef Cranogwen ac Eluned Phillips (dan bont Cenarth) a’r ddwy o Geredigion?
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn fardd ac Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant