Cyfraniad anferth i wthio’r ymgyrch ymlaen
Mae YesCymru wedi croesawu’r Comisiwn gan ei ddisgrifio fel rhywbeth ‘pwysig’ a ‘sylweddol’.
Yn ôl Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru: “Mae’r adroddiad yn mynd i’r afael ag egwyddor a chysyniad annibyniaeth ac yn trafod sut i symud pethau ymlaen. Mae’n gyfraniad anferth a bydd cyfle i ni ei ddefnyddio wrth wthio’n hymgyrch ni ymlaen.
“Gobeithio nawr y bydd pleidiau ac undebau llafur yn gwneud rhywbeth yn debyg.”
Dywedodd bod cynnal refferendwm ‘yn syniad newydd’ i’r drafodaeth am annibyniaeth.
Cyfeiriodd at ei brofiadau personol o refferenda blaenorol, fel refferendwm ‘79, “pan oedd sïon di-sail yn drwch ac yn mynd â’r sylw oddi wrth y mater. Gyda thwf y cyfryngau cymdeithasol byddai mwy fyth o hynny.
“Mae gwledydd eraill wedi ennill eu hanibyniaeth trwy bleidlais yn eu seneddau, fel Tsiecoslofacia a gwledydd yr Undeb Sofietaidd. Ond mae’r Comisiwn ei hun a’r adroddiad yn gam pendant ymlaen, ac rydyn ni’n falch bod hynny wedi digwydd.”