Mae’n Senedd ni llawer yn rhy fach
Adroddiad yn argymell newididau mawr yn y Bae
Gyda misoedd olaf y pumed Senedd ac etholiad 2021 ar y gorwel, mae adroddiad yn argymell gwneud diwygiadau pellgyrhaeddol i strwythur y sefydliad.
Newidiadau sy’n cynnwys cynyddu nifer yr Aelodau, cael system etholiadol newydd a chyflwyno mesurau i wella amrywiaeth.
Mae’r diwygiadau a argymhellir yn dod yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sy’n ymestyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bobl 16 a 17 oed.
Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn gynharach eleni. Ym mis Mai 2020, newidiodd enw’r ddeddfwrfa’n ffurfiol i Senedd Cymru/ Welsh Parliament, gan adlewyrchu ei lle yn nhirwedd gyfansoddiadol y DU.
Y llynedd, penderfynodd y Senedd fod angen mwy o Aelodau, ond bod angen rhagor o waith trafod ar sut i gyflawni hynny. Crëwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i drafod argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a thrafod faint o Aelodau y mae ar y Senedd ei hangen.
Mwy o Aelodau
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu maint y Senedd i fod rhwng 80 a 90 Aelod (o’r 60 presennol).
System etholiadol newydd
Mae’r Pwyllgor yn argymell hefyd y dylid cyflwyno deddfwriaeth i Aelodau’r Senedd gael eu hethol drwy system etholiad y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) o 2026 ymlaen. Hon oedd yr opsiwn a ffafriwyd yn glir gan nifer o’r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad y Pwyllgor.
‘Ni fydd y drafodaeth ynghylch maint y sefydliad yn diflannu, ac mae angen mynd i’r afael â’r mater hwn cyn gynted ag y bo modd’
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod gwaith craffu, y gynrychiolaeth a’r broses o wneud penderfyniadau yn well lle ceir amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol, a phan ellir elwa ar ystod o brofiadau uniongyrchol. Mae hefyd o’r farn y dylai deddfwrfeydd fod yn fannau cynhwysol lle y gall y bobl a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu.
Dywedodd Dawn Bowden AS, Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd:
“Yn amlwg, ein prif flaenoriaeth fel Aelodau’r Senedd dros y cyfnod hwn yw’r ymateb i bandemig COVID-19.
“Mae’r ffordd y mae ein Senedd yn gweithredu wedi cael ei rhoi o dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed yn ystod yr argyfwng hwn.
“Mae datganoli wedi bod yn daith gyffrous, ac mae’r Senedd sydd gennym heddiw yn edrych yn hollol wahanol i’r sefydliad a gafodd ei greu dros 20 mlynedd yn ôl. Gyda’i phwerau a’i chyfrifoldebau estynedig, mae’r Senedd bellach yn gwneud penderfyniadau ar gyfreithiau sy’n effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl ac yn gyfrifol am bennu rhai cyfraddau treth.
Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: “Rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor yn fawr, gan ei fod yn cynrychioli’r cam nesaf yn y broses o greu Senedd sy’n addas at y diben ac sy’n gallu gweithredu’n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ni fydd y drafodaeth ynghylch maint y sefydliad yn diflannu, ac mae angen mynd i’r afael â’r mater hwn cyn gynted ag y bo modd.
“Mae’r digwyddiadau a welwyd yn ddiweddar, gan gynnwys y pandemig ac ymadawiad Prydain â’r UE, wedi taflu goleuni pellach ar y mater o gael capasiti priodol i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth ac asiantaethau eraill. Bydd gwaith craffu effeithiol yn talu am ei hun.
“Rwy’n falch iawn hefyd bod y Pwyllgor wedi atgyfnerthu ymrwymiad y Panel Arbenigol i greu system etholiadol fwy cyfrannol er mwyn ethol Senedd sy’n fwy o faint. Dylai mandadau cyfartal, dewis pleidleiswyr ac amrywiaeth fod wrth wraidd system etholiadol newydd.”