Dim mwy o anfeiliad gwyllt yn y syrcas
O fis Rhagfyr ni fydd syrcasau teithiol yn cael defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau. Daeth rheoliadau i rym, o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), ddechrau Medi. Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd: “Dyma benllanw ymgyrch hir a phenderfynol gan lawer iawn o bobl yng Nghymru ac mae’r Pwyllgor hwn yn falch o weld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod. “...cyflwynwyd deiseb yn galw am waharddiad a gafodd ei llofnodi gan fwy na 6,000 o bobl. Tynnodd y Pwyllgor sylw Llywodraeth Cymru at y ddeiseb ac fe gyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd. “Mae hyn yn dangos yr effaith y gall democratiaeth a system ddeisebau’r Senedd ei chael wrth dynnu sylw at faterion pwysig ac arwain at newid gwirioneddol.”