Lansio cynllun newydd Cyfeillion y Ddaear
Lansiwyd ‘Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru’ gan Gyfeillion y Ddaear Cymru sy’n galw am adferiad gwyrdd a theg i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: “Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i’r afael â sawl argyfwng ar hyn o bryd – adferiad COVID-19, yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl. Mae’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r amryw argyfyngau hyn a gwella safonau byw i bobl a’r blaned.”