DEFFRO’R DEYRNAS
Mae angen tipyn o hwyl... yn y cyfnod dieithr ‘ma!
Roeddwn i ’di cerdded heibio i’r dyn bach hefo’i gi bach cwpl o weithia dros y misoedd diwethaf.
Ar ôl ychydig byddem yn cyfnewid ‘helo!’ bach cwrtais wrth groesi’n gilydd ar lwybr Mawddach bob bore. Ac yna, un bore, mi wnes i ddechra siarad hefo ci y dyn bach wrth i ni groesi ein gilydd unwaith eto. “Be ‘di dy enw di ta?” gofynnais
“Twm ydi enw’r ci bach yma” atebodd y dyn. “Iestyn ydw i”
“Ti o Ddolgellau?”
“Roeddwn i’n arfer byw yma, yn yr 80au.”
“O. Pwy oedd dy Dad?”
“Adrian y Sarjant!”
“Dwi’n cofio fo’n iawn - wnes i werthu motobeic coch - Honda - iddo fo! Dweda wrtha fo fod Johnny yn cofio ata fo!”
Y noson honno dyna fi ar y ffôn hefo Mam yn dweud wrthi fod Johnny bach, y dyn hefo Honda Coch, yn cofio at Dad. “Mae Johnny - y dyn wnaeth werthu motobeic i ti - yn cofio ata ti!” Medda Mam wrth Dad. Ond roedd Dad wedi camddeall.
“Ohhh. Be ddoth o’r Honda Coch?”
“Mi wnes i ei werthu fo.” Atebodd Dad
“BE? Ei werthu fo?”
“Do - i blismon arall!”
“I blismon. O mae’n iawn felly.”
Erbyn hynny roeddwn i jest â marw isho chwerthin, ond fe wnes i lwyddo i gadw’r cymeriad.
“Adfian! Mae dy fab isho gair ’wan felly wna i dy foi di nôl ar y ffôn hefo fo!”
“Neis siarad hefo chdi eto Johnny a cofia alw i’n gweld ni!”
“Fyfain siŵr o fneud Adfian!” atebais cyn troi’n ôl i fod yn Iestyn.
“Diolch Johnny. Dad - Dwi’n goro mynd rwan - siarad â ti fory!”.
Mae’n rhaid fy mod i’n argyhoeddi, oherwydd ychydig funudau wedyn daeth y cariad lawr o’r llofft a gofyn - “Pwy oedd yma jest rwan?”
“Neb” meddwn “jest fi yn gwneud lleisia gwirion!”