Mae annibyniaeth wedi symud o’r ymylon i brif ffrwd dadl wleidyddol Cymru
Gweledigaeth am ein dyfodol a chyhoeddi y llwybr i’w ganlyn
Adam Price Arweinydd Plaid Cymru
llywodraeth Plaid Cymru yn dilyn yr etholiad Seneddol fis Mai nesaf.
Byddai’r Bil a amlinellwyd yn yr adroddiad yn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol Statudol i roi dealltwriaeth glir i bobl Cymru o’u hopsiynau cyfansoddiadol yn y dyfodol.
Byddai mewnbwn hanfodol i Gynulliadau Dinasyddion o bob rhan o sbectrwm bywyd Cymru. Dylai refferendwm cychwynnol brofi ystod o ddewisiadau cyfansoddiadol gyda’r canlyniad yn cael ei ddefnyddio i berswadio Llywodraeth y DU i gytuno i refferendwm deuaidd pellach. Yna byddai pobl Cymru yn dewis rhwng y statws-quo a’u dewis dethol o’r refferendwm cyntaf.
Bydda i a Phlaid Cymru yn cymryd ein hamser dros yr ychydig fisoedd nesaf i ystyried ei argymhellion yn llawn, ac rwy’n gobeithio yn fawr y bydd cefnogwyr a gwrthwynebwyr annibyniaeth i Gymru fel ei gilydd yn ei ystyried yn gyfraniad difrifol i’r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a’r llwybr tuag at annibyniaeth.
Mae pethau’n newid.
Gallai’r Alban ddod yn annibynnol yn y pum mlynedd nesaf a gall Iwerddon weld pleidlais ar uno.
Ond nid yw Plaid Cymru yn blaid sydd eisiau chwalu Prydain. Yn hytrach, rydyn ni eisiau ail-greu Prydain.
Rydym am greu partneriaeth newydd rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn ar sail cydraddoldeb. Mae’n enghraifft glir o’r hyn a allai fod yn bosibl mewn perthynas gyfansoddiadol newydd rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban.
Ein cenhadaeth yw argyhoeddi pobl Cymru nad yw annibyniaeth yn freuddwyd yn unig ond yn gwbl hanfodol gan fynd i’r afael â’n problemau a gwella ein safon byw.
Er mwyn cyflawni hyn i gyd, mae’n rhaid i ni lunio rhaglen argyhoeddiadol a thrawsnewidiol ar gyfer llywodraethu yn 2021, un sy’n gredadwy ac yn bosibl ei chyflawni ac sy’n ysbrydoli gobaith i’n pobl bod gwir welliannau i’w bywydau yn bosibl.
Wedi’r cyfan, nid gwaith un blaid yn unig yw creu Cymru annibynnol newydd, ond gwaith cenedl gyfan, ei holl bobl a’u holl safbwyntiau.