‘Mae hi’n hen bryd gweithredu ar Dai Haf’
WrthLgyflwynoLdadlLarLlawrLyLSeneddLlansioddLPlaidL CymruLadroddiadLâLsyniadauLamLsutLiLfyndLi’rLafaelL â’rLargyfwngLailLgartrefi,LaLnodiLeiLbodLynLbrydLi’rLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLLL LlywodraethLweithredu.L
Yn ôl y Blaid mae’n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn er mwyn gwarchod cymunedau a phrynwyr tro cyntaf yn erbyn yr annhegwch economaidd sy’n deillio o orweithiant ail dai.
Ymysg argymhellion yr adroddiad mae galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned, atal tai newydd rhag cael eu prynu fel ail dai mewn ardaloedd lle mae ail dai yn cynrychioli dros 20% o’r farchnad, caniatáu i gynghorau godi’r dreth cyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200%, a dod â thai o fewn cyrraedd lleol.
Yn ystod y ddadl dywedodd Delyth Jewell, gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros dai: “Does dim un o’r mesurau yn fwled aur, a does dim un yn ddadleuol, ond gyda’i gilydd, gallant wyro grym y farchnad i ffwrdd o fuddsoddwyr cyfoethog tuag at bobl gyffredin ar gyflogau isel.
“Ni fyddai Cymru ar ei phen ei hunan yn cymryd camau o’r fath. Yn wir, ry’n ni yng Nghymru yn eithriad yn y ffaith ein bod ni’n caniatáu i’r anghyfiawnder yma barhau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg. Er enghraifft, mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai pobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn Yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o du allan i’r rhanbarth.”
Cyflwynodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, welliant i gynnig Plaid Cymru i alw ar y Lywodraeth i: “gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a’r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a’r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o’r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â’r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.”
Pleidleisiodd y Senedd dros y gwelliant hwnnw gan ddileu cynnig gwreiddiol Plaid Cymru. Wrth gyfeirio at y gwelliant cyfeiriodd Delyth Jewell at: “ddiymadferthedd o du Llywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod yna broblem, ond dydyn nhw ddim yn cymryd yr un cam i’w datrys.
“Prif bwrpas datganoli oedd ymbweru Cymru i ni allu datrys ein problemau ein hunain, ond mae hon yn sefyllfa sydd wedi parhau i gael ei hesgeuluso wrth i drigolion lleol weld prisiau tai yn cynyddu tu hwnt i bob rheswm gan brisio pobl allan o’r cymunedau a gwanhau seiliau’r iaith yn y cadarnleoedd.”