Cymorth cyflogaeth ar gael i drigolion Powys
MaeLcynllunLmentoraLsy’nLhelpuL poblLiLgaelLgwaithLarLgaelLiLdrigolionL Powys.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn rhaglen sy’n cael ei chyflenwi gan Gyngor Sir Powys a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cefnogaeth 1-1 i bobl ddatblygu sgiliau newydd a chael eu cyflogi.
Gall pobl dros 16 oed sydd naill ai’n ddiwaith neu mewn gwaith gyda chyflog isel ac sy’n awyddus i uwchsgilio gael mynediad i gymorth gan un o fentoriaid cymwysedig Powys.
Bydd y mentoriaid yn cynorthwyo unigolion i wella’u sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, cynyddu hyder, dod o hyd i leoliadau gwaith ac arian i dalu am gymwysterau.