Ennill gwobr myfyriwr Harper Cymry
Mae Lewys Jones, sydd wedi graddio mewn Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio, wedi derbyn Gwobr Myfyriwr clodfawr Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2020.
Yn ogystal â gwobr ariannol mae’r enillydd yn dod yn aelod o Ffermwyr Dyfodol Cymru, corff anwleidyddol o ffermwyr ifanc sydd yn barod i drafod a mynegi eu barn, eu pryderon a’u syniadau am ddyfodol ffermio a bywyd gwledig yng Nghymru.
“Mae ennill Gwobr Myfyriwr
Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2020 yn fraint, yn gamp enfawr ac yn ffordd wych o orffen fy amser yn Harper” meddai Lewys a enillodd radd 2:1 yn ddiweddar.
Mae ganddo berthynas deuluol hirsefydlog â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, o ran cefnogi’r gymdeithas ac o ran cystadlu yn y sioe. Uchelgais gyrfa Lewys yw dod yn ei flaen ym musnes contractio amaethyddol ei deulu.