Gorfod canslo ffair stryd boblogaidd oherwydd y firws
Mae’rLCoronafirwsLwediLgorfodiLCyngorLSirLYnysL MônLiLgansloLffairLboblogaiddLsy’nLcaelLeiLchynnalL ynLunLoLdrefi’rLynysLersLcanrifoedd.L
Cynhelir Ffair y Borth ar strydoedd Porthaethwy ers 1691, ar yr un dyddiad - 24 Hydref , ac mae’n dal i ddenu cannoedd o bobl fel arfer.
Ond gyda phryderon am allu i gadw pellter cymdeithasol, a’r posibilrwydd o ledaeniad y firws, doedd gan y Cyngor Sir ddim dewis ond canslo’r digwyddiad am eleni.
Eglurodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd,
Les Pursglove: “Mae Ffair Borth yn ddigwyddiad ar strydoedd cyhoeddus. O ganlyniad, ni fyddai’n bosib rheoli’r niferoedd yn mynychu’r ffair mewn ffordd ddiogel.
“Mae’n bechod ond mae’n rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf ac ni allwn achosi risg pellach o’r firws yn lledaenu ar yr ynys.”