Galw am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid
Flwyddyn wedi i Lywodraeth ganiatáu i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim mae galw am ymestyn y cynllun i gynnwys ffoaduriaid.
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu cronfa i roi mynediad i’r we i ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn iddynt gael mynediad at wersi ar-lein yn ystod y cyfnod COVID-19 pan nad oes gwersi wyneb yn wyneb yn digwydd.
Dywedodd Joseff Gnagbo, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith: “Cyn y llynedd, roedd yn rhaid i geiswyr lloches dalu i fynychu gwersi Cymraeg - mae’r ffaith fod y sefyllfa hon wedi newid ers hynny, wedi blynyddoedd o ymgyrchu ar y mater, yn bendant yn rywbeth i’w ddathlu. Er hyn, rydyn ni’n galw am wneud yr holl wersi Cymraeg sy’n cael eu darparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim i ffoaduriaid hefyd, nid dim ond ceiswyr lloches. Gan fod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn wynebu llawer o’r un mathau o anghyfiawnderau a rhagfarnau, roedd y penderfyniad i ddarparu gwersi Cymraeg i’r naill ond nid i’r llall wastad yn un mympwyol.
“Mae gan y Llywodraeth bolisi o wneud Cymru yn Genedl Noddfa - ond ymddengys ar adegau mai dim ond geiriau gwag yw hyn. Dyma gyfle i’r Llywodraeth roi cig ar yr asgwrn, gweithredu ei egwyddorion datganedig o gynwysoldeb a thegwch, a sicrhau fod gan bawb, o bob cefndir, fynediad at yr iaith.”
Ychwanegodd Mabli Sirol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r ffoaduriaid, fel Joseff, sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw. Byddai cynnig gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yn ffordd arbennig o’u cynnwys yn ein cymdeithas a gwireddu’r weledigaeth o wneud Cymru’n
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau i gyd i fabwysiadu ein gweledigaeth o Ddinasyddiaeth Gymraeg i Bawb cyn yr etholiad flwyddyn nesaf, i ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni. Byddai sicrhau mynediad i wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gam cadarnhaol tuag at wireddu’r weledigaeth honno.”