Mae’n bosib ailagor yr hen reilffordd am gost llawer llai
Byddai ailagor rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin yn costio’n sylweddol llai na’r disgwyl yn ôl adroddiad newydd Traws Link Cymru.
Mae grŵp Ymgyrch Rheilffordd Gorllewin Cymru, Traws Link Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwil newydd i ailagor y rheilffordd.
Daw’r adroddiad, ‘Coridor Rheilffordd Strategol Newydd’, ddwy.flynedd.ar.ôl.i.Lywodraeth..................... Cymru gyhoeddi ei hastudiaeth ddichonoldeb, a ddaeth i’r casgliad nad oedd rhwystrau mawr i ailagor y lein ac y byddai’r rheilffordd newydd yn costio oddeutu £775m.
Ond mae dadansoddiad pellach Traws Link Cymru o’r astudiaeth yn honni bod diffygion sylweddol i’r adroddiad gwreiddiol.
Dywed Cadeirydd TLC, Adrian Kendon: “Mae yna hepgoriadau pwysig yn yr adroddiad, a fethodd, er.enghraifft,.ag.ystyried.cyflwr.y.tri. thwnnel ar yr hen lwybr ac a oedd hefyd yn tanamcangyfrif poblogaethau dalgylchoedd.
“Mae ein gwaith pellach ar yr astudiaeth yn datgelu unwaith y bydd y dalgylch chwyddedig o amgylch y gorsafoedd arfaethedig yn cael ei ystyried, mae’r gymhareb cost a budd yn gwella, a chyda dulliau adeiladu modern, gellid lleihau cost ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin i.oddeutu.£620.miliwn,.ffigur.20%.yn. llai na’r hyn a awgrymwyd.”
Mae’r adroddiad hefyd yn ailbwysleisio yr achos cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol dros ailagor y rheilffordd.
Bydd yn cael ei ddanfon at wleidyddion y Senedd a San Steffan a bydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan newydd Traws Linc Cymru, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn yr hydref.