‘...clywsom y cyfryngau Seisnig ar eu gwaethaf wrth geisio ynganu Rhondda Cynon Taf’
Yr iaith wedyn.
Dw i newydd dreulio pnawn Sul diog yn binj-wylio’r gyfres ddrama ddirgel Strike gan JK Rowling oddi ar iPlayer, a gwingo bob tro roedd rhywun yn d’eud ‘Geraint Winn’ am y Cymro o aelod seneddol dychmygol a chwaraewyd gan Robert Pugh o Gilfynydd. Grunt, Gurr-aint, Garinte. Do, fe’u clywsom i gyd.
Lwcus nad oedd G. Thomas yn rhan o’r Tour de France eleni.