‘Er iddo ddigwydd dros bedwar can blynedd yn ôl mae’r awduron yn llwyddo i gyfleu erchyllterau’r llifogydd’
Paul i’w ddynodi fel man lle gellid prynu’r pamffled. Gwerthwyd drama Shakespeare, Titus Andronicus, dan arwydd y dryll hefyd.
Mae gennym ddisgrifiadau manwl o’r digwyddiad erchyll yn Ionawr 1607; a hawdd dychmygu bod yn y man a’r lle pan orlifodd y dyfroedd.
Ar Ionawr 30ain 1607 am tua naw o’r gloch y bore mae’r pamffled yn cofnodi i bobl weld ton enfawr wrth fynd i’w gwaith: “fel petai fynyddoedd mwyaf y byd wedi llethu’r tiroedd isel neu dir corsiog”. Cred rhai mai niwl neu darth y gwelsant.
Mae’r adroddiad yn cyfleu mor erchyll oedd y digwyddiad. “Bu lawer o ddynion yn gyfoethog pan godon nhw allan o’u gwelyau yn y bore a wnaethpwyd yn dlawd cyn hanner dydd yr un diwrnod.” Mewn llai na phum awr bu farw 2000 o bobl a dinistriwyd dros 200 milltir sgwâr o dirwedd. Cyrhaeddodd y dyfroedd hyd at 5 milltir i’r mewndir. Difethwyd yr arfordir o Dalacharn i Gas-gwent.
Achoswyd difrod sylweddol yng Nghaerdydd, ddaioni anfeidrol ei chadw, rhag y fath beryglon.’
Llwyddodd ei ffrindiau i glymu dau gafn llydan at ei gilydd ac anfonwyd dau ddyn gyda pholion i rwyfo tuag ati. Ond nid dyna ddiwedd ei ddioddefaint: mae’r awdur yn sôn bod cŵn, cathod, tyrchod daear, llwynogod, ysgyfarnogod, llygod a llygod mawr hefyd yn gwmni iddi ar y banc. Bu’n ymdrech iddi gadw’r creaduriaid rhag ymgripio arni. ‘Nid oedd hi gymaint mewn perygl o’r Dŵr ar un ochr: gan gythryblwyd