Yr ‘c’ fach a’r trywydd traddodiadol
Ceisio doethineb y dorf
Mae hi bron yn ystrydeb bellach i fentro dweud bod gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol o bob lliw yn cynrychioli byd sydd ymhell iawn o realiti dyddiol pobol gyffredin.
Gyda’r byd hwnnw hefyd, yn amlach na pheidio yng ngolwg y cyhoedd, wastad yn llwyddo i ddenu unigolion ymwthgar, hunan-dybus sydd eisiau grym a statws iddyn nhw eu hunain uwchlaw popeth arall.
Mae’r synnwyr hwnnw wedi hen wreiddio yma yng Nghymru hefyd, a’r gobeithion hynny am ffordd gwbl newydd o wneud pethau yma wedi’r wawr ddatganoledig yn 1999 wedi suro erbyn heddiw.
Gellid dadlau bod llai o gyfranogi a diddordeb mewn materion cyhoeddus heddiw ymhlith trwch y boblogaeth nag oedd 20 mlynedd yn ôl.
Efallai bod rhaid i rywun dderbyn nad oes modd i’r model gwleidyddol presennol yn San Steffan na Bae Caerdydd ddiwygio’i hun ohono’i hun er mwyn trin y pry sydd yn y pren.
A bod rhaid i ddatrysiad i’r broblem hon ddod o gyfeiriad cwbl wahanol. Un cynnig newydd ar hynny yw ‘Trafodwn’. Dyma’r enw Cymraeg sydd wedi’i ddewis ar gyfer proses a elwir ‘Deliberative Democracy’ - dull gwahanol iawn o drafod a phenderfynu ar faterion o bwys yn ein cymdeithas heddiw.
Hanfod y syniad yw symud oddi wrth y broses wleidyddol wrthwynebol (adversarial) bresennol rhwng pleidiau neilltuol.
A symud tuag at drefn sy’n rhoi cyfle i bobol gyffredin ddod at ei gilydd i bwyso a mesur pynciau gwahanol a chael hyd i atebion trwy gyd-drafod yn bwrpasol gyda’i gilydd.
Bydd digwyddiad Trafodwn yn canolbwyntio ar un cwestiwn dynodedig, gyda chynrychiolwyr gwahanol safbwyntiau ar y pwnc yn cyflwyno eu hachos mewn tua 5 munud yr un.
Yna caiff yr unigolion sydd wedi eu gwahodd i’r digwyddiad rannu’n grwpiau i drafod y syniadau gwahanol sydd wedi eu cyflwyno.
Dyna pryd y digwydd yr hud yn ôl hyrwyddwyr Trafodwn, wrth i ‘ddoethineb y dorf’(‘ hive mind’) gael cyfle i serennu.
Ar y diwedd ceisir cytundeb ar bopeth sydd wedi’i drafod er mwyn ateb y cwestiwn a osodwyd, ac fe gyflwynir argymhellion pendant i sylw cyrff megis llywodraeth leol neu ganolog.
Mae 300 o ddigwyddiadau Trafodwn wedi eu cynnal mewn sawl gwlad ar hyd a lled y byd erbyn hyn. Yr hyn sy’n drawiadol amdanynt ydi bod sawl llywodraeth wedi mabwysiadu rhai o’r argymhellion a wnaed ganddynt.
A hynny yn ei dro yn arwain at fwy o ddiddordeb mewn democratiaeth dinesydd-ganolog yn y gwledydd dan sylw.
Ym marn Vicky Moller o Sir Benfro, sy’n hwylusydd Trafodwn yma yng Nghymru, mae yna fanteision pendant yn deillio o roi cyfle ac amser i bobol gyffredin bwyso a mesur pwnc o bwys yn iawn.
Dywed bod y trefniant yn gallu dod at benderfyniadau mwy blaengar, dewr ac arloesol nag y gall llywodraethau.
Eisoes cynhaliwyd un digwyddiad Trafodwn yn siroedd Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin, daeth 155 o bobol ynghyd i drafod ‘Tir Ffermio a Gwydnwch’ .
Ac er y gwahaniaethau barn ymddangosiadol rhwng ffermwyr ac amgylcheddwyr ynghylch y pwnc, llwyddwyd i gyrraedd cytundeb ar 13 o argymhellion pendant i’w danfon at y cynghorau sir dan sylw.
Y mis hwn, cynhelir Trafodwn arall yn ymwneud â thwristiaeth yn y Gymru wledig a’r cynrychiolwyr yn dod ynghyd y tro hwn i drafod y cwestiwn ‘Sut mae datblygu model twristiaeth sy’n fwy bendithiol i’r gymuned leol’ Pwnc llosg yn sicr yn wyneb holl ddigwyddiadau’r misoedd diwethaf yma. Gyda lwc, fe ddaw Trafodwn yn air ac yn arfer cynyddol boblogaidd yma yng Nghymru gyda hyn. Ac yn fodd o dynnu llawer iawn mwy o bobol ynghyd i drin a thrafod y gwahanol faterion sy’n effeithio ar ein bywydau heddiw.
‘Dywed bod y trefniant yn gallu dod at benderfyniadau mwy blaengar, dewr ac arloesol nag y gall llywodraethau’