Merched y Wawr Pryder wrth gwrs am glo arall... ond mae prysurdeb ein haelodau i’w ryfeddu
Gan Meirwen Lloyd, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr
Mae tymor yr Hydref yn agor blwyddyn newydd i sawl un - boed yn ymuno gyda Chylch Meithrin, taith addysg yr ysgol Gynradd, bwrlwm yr ysgol Uwchradd, cyffro cyfnod Coleg neu ddechrau yn y byd gwaith.
Ac mae sawl oedolyn yn ailymuno yn ngweithgareddau ein mudiadau neu yn ymuno am y tro cyntaf.
Dychrynais wrth baratoi’r erthygl a sylweddoli erbyn i’r Cymro gyrraedd silffoedd ein siopau ym mis Hydref bod saith mis ers i Cofid 19 - y Coronafirws - ddod yn bandemig yn ein gwlad ac ar draws y byd.
Mae pryder gwirioneddol am glo arall ac effaith hynny ar ein heconomi, ein Byrddau Iechyd a’n cwmnïaeth.
Mae ardaloedd o Gymru wedi profi clo lleol yn barod a hithau ond ym mis Medi, mae hynny wedi effeithio ar ein haelodau mewn sawl rhan o’r wlad. Cofiwch y cyngor, golchwch eich dwylo, cadwch ddwy fedr o bellter, gwisgwch fwgwd, cadwch yn saff.
Cefais gyfle dwywaith yn ystod y mis i fod ar raglen foreol y Post Cyntaf yng nghwmni Kate Crockett a Dylan Jones. Ein pwnc trafod oedd effaith y Cofid ar elusennau a sut mae Merched y Wawr wedi ac yn cysylltu gydag aelodau am y newidiadau cyson.
Ym mis Mawrth roedd pawb yn gweld y lliw melyn yn ein gerddi a’r llwyni yn ein bröydd ac erbyn hyn mae lliw porffor y grug fel y rhedyn yn ein hardaloedd yn dechrau crino.
Rydym wedi ymlwybro drwy saith o liwiau’r enfys yn rhyfeddol yn ystod y cyfnod.
Fel y gwyddoch melyn yw lliw cadeiriau stiwdio ‘Pnawn Da’ a ‘Heno’ yn Llanelli. Cefais y fraint o eistedd yno ar y cyntaf o Fedi i drafod gweithgareddau ein cyfnod clo.
Diolch am y croeso gan holl staff cwmni Tinopolis. Rydym hefyd fel mudiad yn dymuno yn dda i Mari Grug sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd yn dilyn genedigaeth merch fach. Pob dymuniad da iddynt fel teulu.
Yn gynharach yn y dydd draw yn Llanrwst roedd Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch, yn cyflwyno’r copi cyntaf o lyfr coginio ‘Curo’r Corona’n Coginio’ i Gwerfyl Eidda, Swyddog Datblygu a Hyrwyddo Clybiau Gwawr y Gogledd.
Mae ein tudalen Facebook wedi bod yn achubiaeth i sawl un yn ystod y cyfnod clo drwy greu cyfeillgarwch a rhannu rysetiau a chynghorion cadw cynnyrch.
Mae sawl aelod wedi crwydro eu hardaloedd yn casglu llus a mwyar, wedi derbyn riwbob neu afalau ar stepen y drws, tyfu tomatos a thatws am y tro cyntaf - dim ond i enwi rhai o’r llysiau a’r ffrwythau.
Mae ein llyfr wedi gwerthu’n hynod o dda ac mae peiriannau Gwasg Carreg Gwalch wedi bod yn hynod brysur yn cyhoeddi’r ail argraffiad.
Mae sawl cangen/clwb wedi ymdopi yn rhyfeddol gyda chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wrth i’r ystadegau newid yn ddyddiol.
Mae mis Medi yn gyfnod talu ein haelodaeth i’r mudiad felly rhaid imi ganmol pawb am fod yn ddyfeisgar wrth ddanfon arian/sieciau i drysorydd eich cangen neu glwb.
Mae prysurdeb ein haelodau i’w ryfeddu, daliwch ati.