‘Wrth gwrs, fel artist Reggae, mae disgwyl i Jarman droedio i’r byd hwn’
na’r gweddill. Disgrifia rhai gerddoriaeth dub fel cerddoriaeth sydd yn defnyddio’r ddesg gymysgu fel offeryn cerddorol, ac ar brydiau, mae hynny’n gwbl wir am yr albwm yma wrth i’r rhythmau a’r effeithiau arbennig ymddangos a diflannu gyda’r curiad.
Mae’n amlygu dawn Jarman i ysgrifennu hefyd, yn enwedig yn ‘Troedio’, wrth i Krissy Jenkins ddefnyddio’r prif fotif cerddorol yn gynnil ac yn gelfydd.
I’r rhai sydd eisiau cael y mwyaf allan o Geraint Jarman fel artist, efallai y buasai troi at fersiwn wreiddiol yr albwm yn fwy buddiol, ond i ffans go iawn y diwylliant hwn, ac i’r rhai sydd yn dyheu am rywbeth mwy arbrofol, mwy mewnblyg, mwy haniaethol, mae Cwantwm Dub i chi. 7/10.
Y Cymro yn holi’r cerddor amryddawn Meilyr Jones, gynt o Radio Luxembourg a’r Race Horses, sydd hefyd wedi gwneud ei enw fel artist unigol:
1. Hoff liw?
Gwyrdd G tywyll.
2. 2 Hoff fwyd?- Pasta ‘cacio e pepe’
3. 3 Hoff 5 ddinas?
Rhufain R
Llundain L
Glasgow G
Athens A
Birmingham B
4. 4 Hoff bump lle yng Nghymru?Trawsfynydd T
Wallog W
Rhyd R Ddu
Llanfihangel L Genau’r Glyn
Llangorwen L
5. 5 Be ydi dy farn di am yr holl fusnes Corona/Covid19 ’ma a’r ymateb iddo? Gormodedd, dim digon, ydy’r cyfryngau yn codi ofn di-angen neu ddim yn codi digon o ofn?
Mae gormod o siarad amdano - does gen i ddim byd i ychwanegu.
6. 6 Unrhyw farn ar wleidyddiaeth/stad y byd? Dwi’n tybio y bydd yr obsesiwn efo’r byd rhithiol (y byd sydd ‘ddim’ ohoni) yn y pen draw yn arwain at yr angen i ailgysylltu efo’r pethau pwysig - pobol eraill a’r byd o gwmpas g (y byd sydd ohoni).
7. 7 Be di’r pella ti’n gallu pwyri?
At A fy nhraed.
8. 8 Bisgedi neu gacen?
w c
9. 9 Hoff siop/au? 10. Be di be?
11. Os ydi pobol wedi esblygu o Chimpanzees pam fod yne dal Chimpanzees?
y