Y Cymro

Dehongli’r llythyr cariad i’w filltir sgwâr

Fu’n holi’r bardd a’r awdur Aled Lewis Evans am gymeriad unigryw’r ffin ...a’r Under Milk Wood heb y môr!

-

Faint o’r cymeriadau sydd wedi eu seilio ar bobl go iawn, petai ni’n mynd i Wrecsam a fydden ni’n dod ar draws cymeriadau’r nofel ‘Tre Terfyn’?

Mae rhai o’r cymeriadau yn bobl rwyf wedi dod ar eu traws. Buaswn yn dweud bod hynny i raddau llai na’r gyfrol ‘Y Caffi’, oedd yn gyfrol arall wedi ei lleoli yn Wrecsam lle’r oedd monologau llawn gan gymeriadau. Mae Wrecsam yn lle diatal o ran pobl yn siarad efo chi ac yn rhannu doethineb ar y stryd, neu mewn caffi. Rwyf wedi cael syniad, neu efallai debygrwydd i ambell i gymeriad yn y dref, ond gan ein bod yn eu gweld mewn amrywiol cameos, mae cryn dipyn o ddychymyg a dyfalu hefyd.

Mae’n farddonol iawn ar adegau, a’r disgrifiad­au bron fel petai Wrecsam ei hun yn siarad, ydych chi’n ystyried Wrecsam yn ardal farddonol?

Mae’r arddull farddonol yn fwriadol i geisio mawrygu ardal Wrecsam, gan fod llawer gormod o ddelweddau negyddol am y dref fywiog a hael hon ar y ffin. Rwyf yn ymwybodol yn ceisio dyrchafu’r ardal, a thanlinell­u bod trwch o hanes yma o dan yr wyneb, a bod eisiau parchu unrhyw ardal ar ffin.

Trefi ar ffiniau sydd, ers dyddiau Morgan Llwyd er enghraifft, yn derbyn a chymathu syniadaeth newydd yr Oes, ac yn fodlon mentro efo llawer i beth.

Cymreig, ond eraill hefyd mewn byd Seisnig.

Ond mae Tre Terfyn yn lle gwerinol iawn ar y cyfan, a’r pentrefi i’r gorllewin. Cymeriadau sydd ar yr wyneb i raddau helaeth, ac yn aml mae eu hanes hwy yn ddiddorol. Dwi’n meddwl am y stryd dwi’n byw ynddi, ychydig iawn fuasai yn gwybod ‘mod i yn llenydda o gwbl. Mae hynny i ryw raddau yn beth da, gan nad yw’r disgwyliad­au yn pwyso arnoch. Mae modd cymryd cam yn ôl o’ch gwaith yn Wrecsam gan fod yna agweddau dinesig megis yng Nghaerdydd i’r dref erbyn hyn. Cyfle i fod yn wrthrychol am eich gwaith llenyddol yn sicr - mae angen y creu a’r gwrthryche­dd, ac mae’r ddau i’w cael yn Wrecsam.

Medrech ddiflannu yn Wrecsam, fel mae nifer o Gymry Cymraeg yr ardaloedd Cymraeg sy’n dod yma i fyw, heb y cyswllt efo ysgol Gymraeg neu gapel Cymraeg. Roeddwn yn cyfarfod pobl yn fy nyddiau radio bro felly - cyfarfyddi­ad untro fel arfer gan na welwch hwy eto. Mae gen i enghreifft­iau o Drawsfynyd­d, Aberdaron a mannau eraill.

Mae rhai cymeriadau tebyg yn y llyfr. Mae cyfle i ymuno â byd Cymraeg ei iaith yma. Mae byd y Cymry Cymraeg yn Wrecsam yn glos a chartrefol a chroesawga­r pan rydych yn cymryd y cam i ymuno â rhywbeth penodol. Yn anffodus fel mewn ardaloedd naturiol Gymreig, dydy’r Gymraeg ddim ymhobman o amgylch, rhaid gwneud ymdrech i gymdeithas­u a chefnogi pethau fel Saith Seren, y capeli Cymraeg, cymdeithas­au fel Owain Cyfeiliog a digwyddiad­au y Stiwt neu Gymdeithas Gymraeg y Felin yng Nghoedpoet­h. Hoffwn weld mwy o gyn-ddisgyblio­n addysg Gymraeg yn dod yn rhan weithredol o’r Gymdeithas Gymraeg yma. Mae yna rai ifanc yn brysur efo’r Gymraeg, mae yna rai sydd yn gwneud yn achlysurol, ac yna mae na rai sydd yn gadael i’r Gymraeg orwedd y tu mewn iddyn nhw heb ei ddefnyddio. Dydyn nhw heb ei anghofio, heb ei ddefnyddio maen nhw.

Mae’r dirwedd a’r dafodiaith yn gosod y nofel yn Wrecsam (neu fersiwn ohoni), ond a fyddai hi’n gallu cael ei lleoli yn unrhyw le yng Nghymru - oes themâu sy’n gyffredin ar draws Cymru?

Dyna ‘dw i’n gobeithio. Un sbardun anfwriadol i arddull y llyfr i mi oedd cymryd rhan efo nifer o ffrindiau fy nghyfnod i o Ysgol Morgan Llwyd mewn darlleniad o ‘Under Milk Wood’ yn y Stiwt yn Rhos, ychydig flynyddoed­d yn ôl.

Mi ddisgrifio­dd Meredith Edwards yr actor o Rhos ei bentref genedigol mewn erthygl yn y Daily Post fel “Under Milk Wood without the sea.”

Hoffais y syniad o ddeialog diatal a ‘cameos byr o fywyd’ sy’n dychwelyd o bryd i’w gilydd at gymeriadau.

‘Llythyr caru i ardal’ yw fy hoff ddisgrifia­d o’r cynnwys. Llythyr caru i’w harddwch a’i hanwyldeb yn ogystal â’i beiau a’i brychau.

Sut beth oedd symud i Wrecsam o’r Bermo, oedd tebygrwydd neu wahaniaeth­au mawr rhwng y ddau le? A sut mae hynny wedi effeithio ar yr hyn rydych chi’n ei ysgrifennu?

Roedd symud o’r Bermo i Wrecsam yn newid mawr i mi yn 1971, er i mi fwynhau cyfnod byr yn Ysgol Bodhyfryd cyn mwynhau ysgol uwchradd ar ei hyd yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Ond rwyf dal yn teimlo’r chwithdod a deimlais bryd hynny, wrth adael Y Bermo bob un tro, fel petai un rhan ohonof yn dal yno wrth y môr. Cymdeithas tref fechan lle y gall pawb gyfrif, ac roedd gwreiddiau teulu fy nhad yn mynd yn ôl cenedlaeth­au yn Ardudwy. Rwyf wedi ysgrifennu tipyn o ryddiaith am y Bermo hefyd, fel lleoliad ambell stori fer, nifer fawr o gerddi, a’r rhyddiaith hunangofia­nnol ‘Rhwng Dau Lanw Medi’ a gyhoeddwyd hefyd gan Wasg Carreg Gwalch yn 1994. Mae rhywle fel y Bermo yn debycach i’r adrannau yn y llyfr newydd sydd wedi eu lleoli yn y pentrefi fel Rhos a Phonciau, Coedpoeth a Bwlchgwyn. Ond mae’r dref ar y gwastadedd yn fwy o her, a dwi’n sôn sawl tro am yr olwg gosmig bron ar y dref o’r llethrau gerllaw.

Hoffech chi sôn am unrhyw beth sydd ar y gweill gyda chi ar hyn o bryd?

Rwyf yn sianelu tipyn o’r creadigol i fy ngwaith beunyddiol fel Gweinidog gan ddarparu Gweddïau i ‘Cristion’ a chyflwyno Munud i Feddwl neu Wasanaeth ar BBC Radio Cymru.

Byddaf yn hoffi cael un syniad hollol ar wahân i weithio arno sydd yn gwbl wahanol i waith bob dydd. Mae’n debyg mai casgliad o gerddi Saesneg fydd un prosiect hirdymor.

Fe gyhoeddais gerddi

Saesneg “Someone else in the audience” nifer o flynyddoed­d yn ôl bellach. Bydd rhai yn gerddi gwbl newydd yn y Saesneg yn unig, eraill yn addasiadau gen i o gerddi Cymraeg i’r

Saesneg.

Rwy’n awyddus i gael rhywbeth i’w ddarllen os daw cyfle efo

Chester Poets neu gyfle i fynd i’r Eglwyswen neu Gilgwri i ddarllen fy ngwaith eto. Bardd ac awdur Cymraeg ydw i yn bennaf, ond mae darllen fy ngwaith gyda Chester Poets dros y blynyddoed­d wedi rhoi hyder i mi deimlo y gall fy ngwaith bontio ffiniau hefyd.

 ??  ??
 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina