Y Cymro

‘...Y gwir ydy fod yna fwy o gyfle i bobl fynd i ddigwyddia­dau Cymraeg yn ardal Wrecsam, nag mewn amryw o ardaloedd yng Nghymru’

-

Mae’r Gymraeg yn amlwg iawn ac yn cyffwrdd pob un o gymeriadau’r nofel, mae rhai yn awyddus i bwysleisio nifer y siaradwyr Cymraeg, oes rhaid i drefi’r ffin weithio’n galetach i gael eu gweld yn Gymraeg?

Dwi’n meddwl eu bod nhw yn gorfod gweithio yn galetach i gael eu gweld yn Gymraeg ym meddyliau’r Cymry Cymraeg, tra bo agweddau Dysgwyr yn syndod o ffres. Dwi’n cofio rhywun o ardal Gymraeg yn gofyn i mi: “Oes ‘na dal bobl sy’n siarad Cymraeg a digwyddiad­au Cymraeg yn Wrecsam?” Doeddwn i ddim isio bod yn amharchus tuag ati, ond mi wnes i gywiro ei chamargraf­f. “Lle dach chi isio i mi ddechrau?” oedd dechrau fy ateb. Y gwir ydy fod yna fwy o gyfle i bobl fynd i ddigwyddia­dau Cymraeg yn ardal Wrecsam, nag mewn amryw o ardaloedd yng Nghymru. Lleiafrif ymylol yw’r rhai sy’n wrth-Gymreig, ac mae agwedd iach a chydymdeim­ladol ar y cyfan yn ardal Wrecsam at yr iaith a’r diwylliant. Difaru eu bod nhw heb ddysgu’r iaith, neu ddim yn ‘proper Welsh’ mae nifer. Heddiw mae’n fwy tebygol i rywun ymddiheuro nad ydyn nhw ddim yn siarad yr iaith, ond ar yr un gwynt i gyhoeddi gyda balchder fod eu plentyn neu eu hŵyr neu wyres yn siarad yr iaith.

Er bod cyfeirio at y dosbarth canol Cymraeg, does dim llawer o lais ganddyn nhw, ydyn nhw’n rhan go iawn o gymuned tref Tre Terfyn felly?

Ydyn, ac efallai mewn straeon byrion byddai mwy o gyfle i fanylu ar gymeriadau penodol. Mae dosbarth canol mewn byd

Newspapers in Welsh

Newspapers from Argentina