‘Yr ofn bryd hynny ym maes hinsawdd oedd y disgwyl ein bod ar fin oes iâ newydd’
yn
1974, pan edrychwyd ar ffyrdd o ddatrys yr her enfawr a wynebwyd. Gwelwyd oeri bydol â’r un sicrwydd cataclysmig â thwymo arfaethedig heddiw. Yn eironig, un o’r atebion oedd llosgi mwy o garbon i gryfhau’r effaith tŷ gwydr, ond stori arall yw honno.
Yn un o raglenni dogfen eraill y creisis ynni cyfeiriwyd at danwyddau amgen, yn enwedig olew a nwy siâl, oedd yn economaidd wrth i’r pris godi, ac yn ddiddorol iawn hydrogen, o bosib gobaith mawr parod o addasiad mewn injan mewndanio neu mewn celloedd hydrogen i redeg ceir trydan. Yn wyrthiol o ffodus, wrth losgi hydrogen yr unig wastraff yw dŵr! Yn anffodus, nid dyna’r stori gyfan. Mae cynhyrchiant hydrogen yn gostus ac mae mathau ‘gwyrdd’ a ‘brown’.
Cynhyrchir hydrogen gwyrdd trwy electroleiddio dŵr gan feintiau enfawr o drydan, felly o le daw’r pŵer?
Cynhyrchir hydrogen brown trwy ddiraddio methan, felly byddai’n rhaid