Gwahardd ceir yn Aberystwyth
Ers mis Gorffennaf, mae’r Cyngor Sir wedi gwahardd ceir o nifer o strydoedd y dref am rai oriau - yn swyddogol ‘rhwng 11 am a 6 pm’.
Cyflwynwyd y mesurau hyn bron yn ddirybydd, pan ddaeth cyhoeddiad ar brynhawn Gwener y byddai’r cynllun yn dod i rym y bore Llun canlynol.
Mae’r cynllun wedi denu beirniadaeth o sawl cyfeiriad, yn enwedig gan berchnogion busnesau lleol, pobol anabl, a thrigolion y dref. Roedd llawer yn achwyn am y diffyg rhybudd, yn ogystal â’r methiant llwyr i drafod y gwaharddiadau.
O ganlyniad i’r gwaharddiad, mae’r traffig a fyddai fel arfer wedi mynd ar hyd Stryd Y Bont, y Stryd Fawr a Heol Y Wîg nawr wedi ei ail-gyfeirio, ac mae trigolion Tan Y Cae (South Road), Y Stryd Uchel, Maes Laura a Stryd Y Castell yn gorfod dioddef llif cerbydau diddiwedd ar hyd y strydoedd hyn - strydoedd preswyl, llwyr anaddas i’r maint yma o draffig.
Hefyd, mae nifer fawr o’r ceir hyn yn gyrru ar hyd y Prom, mewn ymgais i gael lle i barcio - ymgais aflwyddiannus i’r mwyafrif. Gan fod Ffordd Y Môr hefyd wedi ei chau, nid oes dewis gan y modurwyr ond mynd yn ôl a mlaen ar hyd y Prom, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar ansawdd yr aer, heb sôn am y sŵn.
Yr eglurhad swyddogol am y cynllun yw ‘er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol’. I unrhyw un sy’n gyfarwydd ag Aberystwyth, mae’r esgus hwn yn un tila iawn; fel y gellir gweld yn gyson, mae’r mwyafrif o bobol yn y Stryd Fawr yn cadw at y palmant, gwahardd ceir ai ai peidio! Hefyd, cymharol ychydig yw’r nifer o gerddwyr yn Stryd Y Bont.
Ar y llaw arall, does dim gwaharddiad ar gerbydau ar Ffordd Y Môr, o Siop Y Pethe tuag at yr Orsaf, sy’n stryd brysur gyda nifer fawr o gerddwyr!
Fel rhan o’r gwaharddiad, collwyd nifer o fannau parcio cyfleus i’r anabl, er enghraifft, yn y Stryd Fawr a Stryd Y Farchnad. Yn dilyn nifer o gwynion i’r Cyngor, darparwyd mannau eraill, rhai yn hollol anaddas; mae Stryd Y Brenin wedi ei neilltuo’n llwyr i barcio i’r anabl. Gellir gweld ffolineb y syniad hwn yn ddyddiol - gan nad yw’r stryd yn agos at siopau, optegwyr, fferyllfaoedd ac yn y blaen, nid oes fawr neb yn parcio yno. O ganlyniad i hyn, mae’r trigolion lleol wedi colli llefydd parcio cyfleus a diogel.
Ar ben hyn i gyd, mae nifer o’r strydoedd ar gau am fwy o amser na’r oriau a benodwyd - er enghraifft, nid yw’r rhwystrau yn Stryd Y Brenin yn cael eu symud cyn hanner awr wedi chwech, ac yn aml yn cael eu gosod awr neu fwy cyn unarddeg.
Mae’n bosib fod dadleuon da o blaid cynllun synhwyrol i neilltuo rhai strydoedd i gerddwyr yn unig, ond rhaid dod i’r casgliad mai methiant llwyr yw’r cynllun presennol. Y tristwch yw fod Cyngor Sir sydd o dan reolaeth Plaid Cymru mor barod i ddiystyru teimladau cymaint o Gymru Cymraeg lleol sy’n rhedeg busnesau yn y dref, neu’n breswylwyr sydd nawr yn wynebu anghyfleustra dyddiol.
Rolant Ellis, 4 Maes Laura, Aberystwyth