Fi’n athrylith? Pwy feddyliai?
Roedd gen i ffrind flynyddoedd yn ôl - mae o wedi marw erbyn hyn - o’r enw Bryn. Mi fuodd yn help mawr i mi yn y dyddiau cynnar wrth imi adfer.
Mi es i’w weld o un diwrnod hefo rhyw broblem neu’i gilydd, a dyma fo’n deud wrtha i: “y drafferth hefo ti, Wynford, ydi dy fod ti’n anghofio dy fod ti’n ‘genius’, yn athrylith.”
Ro’n i’n llawn embaras. Roedd y peth yn nonsens, wrth gwrs. Fi’n ‘ genius’? “Glyyyywsoch chi’r ffasiwn beth?” fel basa Syr Wynff yn ddeud ers stalwm.
Rai wythnosau’n ddiweddarach mi es i’w weld o eto, rhyw broblem arall wedi codi - rhyw sgript neu rywbeth ddim yn gweithio allan. “Sawl gwaith sy’n rhaid i mi ddweud wrthat ti, Wynford?” medda fo eto, “Y drafferth hefo ti ydi dy fod ti’n anghofio dy fod ti’n ‘ genius’.”
A dyma fi’n dechrau’ meddwl … ystyried y peth yn ddwys … ac ia, ym, ie, falla … falla ’mod i … yn ‘ genius’!
A dyna pryd ddigwyddodd y wyrth i mi. Unwaith ’nes i sylweddoli ’mod i yn ‘ genius’, mi wnes i sylweddoli bod pawb arall hefyd - ein bod ni i gyd yn unigryw, bod ganddon ni i gyd gyfraniad unigryw i’w wneud i glytwaith cyfoethog bywyd. Ein bod ni i gyd, pob copa walltog a heb ddim gwallt ohonon ni, yn cyfri - ac yn hanfodol i fywyd ar yr hen ddaear yma.
Y wers?: heddiw, beth am drin ein hunain fel y ‘ geniuses’ ag ydan ni?